Pecyn Cyngor a Chymorth - Myfyrwyr Nyrsio Rhyngwladol yn Unig

Ynglŷn â'r pecyn hwn  

Mae'r pecyn hwn yn darparu gwybodaeth ychwanegol a chymorth ymarferol i raddedigion nyrsio rhyngwladol nad ydynt eto wedi sicrhau swydd.  

Dylid darllen y pecyn hwn ochr yn ochr â'r Pecyn Cyngor a Chymorth – Graddedigion Nyrsio, sy'n cynnwys gwybodaeth am:  

1. cyfleoedd cyflogaeth amgen;  

2. cymorth gyrfaoedd a chyfweliadau;  

3. cymorth drwy'r Coleg Nyrsio Brenhinol;  

4. dysgu am ddim drwy Y Tŷ Dysgu; a  

5. chymorth llesiant.  

 I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y swyddi sydd ar gael, y broses Dyrannu Ychwanegol a'r hyn y mae angen i chi ei wneud, cyfeiriwch at y diweddariadau a anfonwyd atoch gan y Tîm Symleiddio Myfyrwyr.  

Parhau i geisio swydd nyrsio

Os nad ydych wedi sicrhau swydd, dylech barhau i gymryd rhan yn y broses Dyrannu Ychwanegol ac ystyried yr ystod lawn o swyddi addas sydd ar gael ledled Cymru.  

Gallwch fynegi diddordeb mewn mwy nag un swydd a chysylltu â mwy nag un bwrdd iechyd.  

Sicrhewch fod gan y Tîm Symleiddio Myfyrwyr eich manylion cyswllt cyfredol a rhowch wybod i'r tîm os yw dyddiad dod i ben eich fisa yn agosáu.  

 Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych ganiatâd dilys i aros a gweithio yn y DU.  

 Ystyriaethau fisa a mewnfudo

Mae trefniadau fisa a mewnfudo yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a gallant newid. Dylech wirio eich statws mewnfudo a’r dyddiad mae eich fisa yn dod i ben yn ofalus a cheisio cyngor cymwysedig cyn gwneud penderfyniadau am gyflogaeth neu gais am fisa.  

Eich fisa Myfyriwr cyfredol 

Bydd y dyddiad y daw eich fisa Myfyriwr i ben yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Gwiriwch eich eVisa neu eich cyfrif UK Visas and Immigration i gadarnhau'r union ddyddiad a'r amodau sydd ynghlwm wrth eich fisa.  

Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod gennych gyfnod safonol o bedwar mis ar ôl cwblhau eich rhaglen. Os oes angen i chi wneud cais arall am fisa, dylech geisio cyngor a gweithredu cyn i'ch fisa cyfredol ddod i ben.  

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau Llywodraeth y DU ar y fisa Myfyriwr. UK Government’s Student visa guidance. 

Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal  

Os byddwch yn sicrhau swydd nyrsio gymwys gyda chyflogwr cymeradwy, efallai y gallwch wneud cais am fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal.  

Mae cymhwystra yn dibynnu ar ffactorau gan gynnwys:  

1. y swydd a'i chod galwedigaeth;  

2. a yw'r cyflogwr wedi'i gymeradwyo i noddi gweithwyr;  

3. y cyflog a gynigir; a  

4. a yw'r cyflogwr yn rhoi tystysgrif nawdd i chi.  

 Nid yw cynnig swydd yn golygu'n awtomatig eich bod yn gymwys i gael nawdd. Dylech drafod nawdd â'r sefydliad sy'n eich cyflogi a gwirio gofynion cyfredol y fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal. Health and Care Worker visa requirements. 

Swyddi cymorth gofal iechyd

Efallai y byddwch am ystyried swyddi gweithiwr cymorth gofal iechyd neu ymarferydd cynorthwyol tra'n parhau i chwilio am swydd nyrsio gofrestredig.  

Gall rhai swyddi iechyd a gofal fod yn gymwys i gael nawdd fisa, ond mae cymhwystra yn dibynnu ar y cod galwedigaeth, y cyflogwr, y cyflog a'ch amgylchiadau unigol. Nid yw band y GIG na theitl swydd ar ei ben ei hun yn cadarnhau a yw swydd yn gymwys.  

Cyn gwneud cais, gwiriwch a all y cyflogwr gynnig nawdd a cheisiwch gyngor ynghylch a yw'r swydd yn bodloni'r gofynion fisa cyfredol.  

 Os ydych yn ystyried swydd nad yw'n gofyn am gofrestriad, darllenwch hefyd y Cwestiynau Cyffredin Symleiddio Myfyrwyr Haf 2026. Maent yn cynnwys canllawiau perthnasol gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) am weithio mewn swydd nad yw'n gofyn am gofrestriad.  

Fisa Graddedig  

Efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am fisa Graddedig ar ôl cwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus.

Mae fisa Graddedig yn caniatáu i raddedigion cymwys aros yn y DU a gweithio heb nawdd gan gyflogwr am gyfnod cyfyngedig. Rhaid i chi wneud cais o fewn y DU cyn i'ch fisa Myfyriwr ddod i ben ac ar ôl i'ch darparwr addysg gadarnhau wrth y Swyddfa Gartref eich bod wedi cwblhau eich cwrs yn llwyddiannus.  

Gall y gofynion cymhwystra a hyd y fisa newid. Gwiriwch y canllawiau cyfredol ar y fisa Graddedig cyn gwneud cais. Graduate visa guidance

Ble i gael cyngor ar fewnfudo  

Gall tîm cymorth myfyrwyr rhyngwladol eich prifysgol ddarparu gwybodaeth am eich statws cyfredol a'r cymorth sydd ar gael.  

I gael cyngor sy'n benodol i'ch amgylchiadau, dylech siarad â chynghorydd mewnfudo rheoleiddiedig. Gallwch ddod o hyd i gynghorydd cofrestredig drwy ddefnyddio’r adnodd Dod o hyd i Gyngor yr Awdurdod Cynghori ar Fewnfudo.   -  Immigration Advice Authority Adviser Finder.

Ni all y Tîm Symleiddio Myfyrwyr ddarparu cyngor mewnfudo unigol.  

Trefniadau ymrwymiad cytundebol 

Gall graddedigion nyrsio rhyngwladol sydd wedi ymgysylltu'n llawn â Symleiddio Myfyrwyr ac nad ydynt wedi sicrhau swydd addas ofyn am gael eu rhyddhau o'u trefniadau ymrwymiad cytundebol.  

 Bydd eich ymgysylltiad â Symleiddio Myfyrwyr a'r ymdrechion rhesymol rydych wedi'u gwneud i sicrhau cyflogaeth yng Nghymru yn cael eu hystyried fel rhan o'ch cais.  

 Os cewch eich rhyddhau, gallwch barhau i wneud cais am swyddi GIG Cymru yn y dyfodol. Gallwch hefyd geisio cyflogaeth mewn mannau eraill yn y DU neu'n rhyngwladol, yn amodol ar eich statws mewnfudo a'ch cofrestriad proffesiynol.  

 I ofyn am gael eich rhyddhau, llenwch y Ffurflen Gais i'ch Rhyddhau o'r Ymrwymiad. 

Mae gwneud cais i gael eich rhyddhau yn ddewisol. Os penderfynwch beidio â gwneud cais nawr, gallwch ofyn am gael eich rhyddhau yn ddiweddarach.  

 Os oes gennych gwestiynau am eich trefniadau ymrwymiad cytundebol, cysylltwch â HEIW.Bursary@wales.nhs.uk. 

 Archwilio cyfleoedd cyflogaeth eraill  

 Gallwch barhau i gymryd rhan yn Symleiddio Myfyrwyr wrth wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwyr eraill.  

Efallai y byddwch am archwilio cyfleoedd addas ym meysydd: 

  • gofal sylfaenol, gan gynnwys practisau meddygon teulu 
  • darparwyr gofal iechyd annibynnol;  
  • gofal cymdeithasol, gan gynnwys cartrefi gofal a gwasanaethau awdurdodau lleol;  
  • swyddi gweithiwr cymorth gofal iechyd neu ymarferydd cynorthwyol; a  
  • sefydliadau'r trydydd sector.  

 Os byddwch yn sicrhau cyflogaeth y tu allan i Symleiddio Myfyrwyr:  

1. Derbyniwch y cynnig swydd.  

2. Rhowch wybod i'r Tîm Symleiddio Myfyrwyr drwy NWSSP.StudentStreamlining.Enquiries@wales.nhs.uk.  

3. Os oes gennych ymrwymiadau cytundebol neu ymrwymiadau bwrsariaeth, rhowch wybod i AaGIC drwy HEIW.Bursary@wales.nhs.uk.  

4. Gwiriwch a yw'r swydd yn effeithio ar eich statws mewnfudo neu'n golygu bod angen gwneud cais newydd am fisa.  

Cymorth gyrfaoedd a phroffesiynol  

Gallwch barhau i gael mynediad at gymorth gyrfaoedd, ceisiadau, cyfweliadau a myfyrwyr rhyngwladol drwy eich prifysgol.  

 Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn darparu canllawiau proffesiynol, adnoddau gyrfaoedd a dysgu, cymorth llesiant a chyngor i fyfyrwyr nyrsio a nyrsys cofrestredig.  

Gall aelodau'r RCN gael mynediad at gyngor proffesiynol a chymorth cyflogaeth drwy ffonio 0345 772 6100.  

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan RCN Cymru.

 Dysgu am ddim drwy Y Tŷ Dysgu  

Gallwch gael mynediad at e-ddysgu am ddim drwy Y Tŷ Dysgu i barhau i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau.  

 Ceir canllawiau cofrestru yn y PPecyn Cyngor a Chymorth – Graddedigion Nyrsio. 

Gofalu am eich llesiant  

Rydym yn cydnabod y gall aros i sicrhau cyflogaeth greu ansicrwydd a phryder. Mae cymorth ar gael, ac rydym yn eich annog i geisio help os oes ei angen arnoch.  

Gwasanaethau llesiant prifysgol  

Gallwch barhau i gael mynediad at wasanaethau llesiant a chymorth i fyfyrwyr drwy eich prifysgol.  

 GIG Cymru 111 – pwyswch 2  

Mae cymorth iechyd meddwl ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.  

Ffoniwch 111 a phwyswch 2.  

 Llinell Gymorth C.A.L.L.  

 Ar gael 24 awr y dydd.  

Ffôn: 0800 132 737  

Tecstiwch HELP i 81066  

E-bost: call@helpline.wales  

 Samaritans  

Ffôn: 116 123  

 Cymorth mewn argyfwng  

Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol o niwed neu os oes angen cymorth meddygol brys arnoch, ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Achosion Brys agosaf.  

Rhagor o wybodaeth  

Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin Symleiddio Myfyrwyr Haf 2026 i gael rhagor o wybodaeth am y broses, cofrestriad proffesiynol, gweithio mewn swyddi nad ydynt yn gofyn am gofrestriad a threfniadau bwrsariaeth.  

 Ar gyfer cwestiynau am Symleiddio Myfyrwyr, eich amgylchiadau unigol neu'r cymorth sydd ar gael, cysylltwch â NWSSP.StudentStreamlining.Enquiries@wales.nhs.uk.