Cwestiynau Cyffredin (FAQs)
Mae'r Cwestiynau Cyffredin hyn ar gyfer graddedigion nyrsio, bydwreigiaeth ac ymarferwyr adran lawdriniaeth (ODP) a gymerodd ran yn Rhaglen Symleiddio Myfyrwyr Haf 2026 ac nad ydynt wedi sicrhau rôl eto.
Mae partneriaid ar draws GIG Cymru yn parhau i nodi cyfleoedd cyflogaeth addas a chefnogi graddedigion sy'n parhau heb rôl. Mae'r Cwestiynau Cyffredin hyn yn egluro beth sy'n digwydd nesaf, sut allwch chi ddilyn cyfleoedd pellach, y trefniadau ar gyfer ymrwymiadau bwrsariaeth GIG Cymru, a ble i gael mynediad at gymorth proffesiynol a lles.
Darllenwch y cwestiynau ar gyfer pob graddedig , ac yna'r adran ar gyfer eich proffesiwn
Gallwch hefyd wylio recordiadau o'r gwe-seminarau ar gyfer graddedigion nyrsio, bydwreigiaeth ac ODP na chafodd rôl ei dyrannu iddynt yn ystod y broses ddyrannu gychwynnol: Symleiddio Myfyrwyr Haf 2026 – Diweddariadau Gweminar