Dychwelyd I hyfforddiant

Mae llawer o feddygon preswyl yng Nghymru yn cymryd amser allan o hyfforddiant am amrywiaeth o resymau. Gall y rhain gynnwys absenoldeb rhiant, cyfrifoldebau gofalu, salwch, cyfleoedd ymchwil/gyrfa, neu weithgareddau datblygiad personol a phroffesiynol eraill. 

Gall dychwelyd i hyfforddiant fod yn newid sylweddol. Mae AaGIC yn hyrwyddo dull unigol, tosturiol a chefnogol er mwyn helpu i sicrhau profiad cadarnhaol o ddychwelyd i hyfforddiant i feddygon preswyl a’u hyfforddwyr. 

Cyn dychwelyd, anogir meddygon preswyl a hyfforddwyr i gyfarfod i drafod: 

  • hyd yr amser i ffwrdd o hyfforddiant 

  • profiadau yn ystod y cyfnod o absenoldeb 

  • unrhyw ofynion cymorth wrth ddychwelyd 

  • cynlluniau ar gyfer sefydlu ac ailintegreiddio i’r rhaglen hyfforddi 

Ar ôl dychwelyd i hyfforddiant, argymhellir cyfarfodydd adolygu rheolaidd i fonitro cynnydd, mynd i’r afael ag unrhyw bryderon a nodi unrhyw anghenion cymorth ychwanegol. 

 

Canllawiau 

Mae’r adnoddau canlynol wedi’u datblygu i gefnogi meddygon preswyl a hyfforddwyr drwy’r broses dychwelyd i hyfforddiant, gan ddarparu canllawiau ymarferol, gwybodaeth a chyfeirio at gymorth ychwanegol. 

Mae Canllawiau Dychwelyd i Hyfforddiant AaGIC yn nodi’r egwyddorion trosfwaol a ddylai fod yn sail i bob dychweliad i hyfforddiant, gyda’r canllawiau ychwanegol yn darparu cyngor wedi’i deilwra’n fwy penodol i amgylchiadau penodol. 

 

 

Cynllunio Eich Dychweliad 

Mae’r ffurflenni hyn wedi’u cynllunio i gefnogi trafodaethau rhwng meddygon preswyl a’u hyfforddwyr cyn, yn ystod ac ar ôl cyfnod o absenoldeb o hyfforddiant. 

  • Ffurflen cyn dychwelyd - ar gyfer absenoldebau heb eu cynllunio, i’w chwblhau cyn dychwelyd i hyfforddiant (argymhellir tua chwe wythnos cyn dychwelyd) 

  • Ffurflen ar ôl dychwelyd - i adolygu cynnydd a nodi unrhyw anghenion cymorth parhaus ar ôl dychwelyd i hyfforddiant (argymhellir tua chwe wythnos ar ôl dychwelyd) 

(Mae’r tair ffurflen ar gael mewn un ddogfen). 

 

Gweithdy RestaRTT AaGIC 

Mae gweithdy RestaRTT AaGIC wedi’i gynllunio a’i ddatblygu gan feddygon preswyl sydd eu hunain wedi profi dychwelyd i hyfforddiant ar ôl cyfnod o absenoldeb. 

Gweithdy anghlinigol yw hwn sy’n darparu cyngor ymarferol, profiadau a rennir a chyfle i archwilio heriau cyffredin sy’n gysylltiedig â dychwelyd i hyfforddiant mewn amgylchedd cefnogol. 

Cynhelir y gweithdy ddwywaith y flwyddyn ac mae’n agored i feddygon preswyl sy’n paratoi i ddychwelyd i hyfforddiant, yn ogystal â’r rhai sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar. 

Gweithdy nesaf:
Dydd Llun 30 Tachwedd
08:30 –15:00 
Archebwch eich lle: YMA 

 

Uned Cymorth Proffesiynol 

Mae cymorth ychwanegol ar gael drwy’r Uned Cymorth Proffesiynol (UCP), a all ddarparu canllawiau, cyngor a chymorth wedi’i deilwra cyn, yn ystod ac ar ôl y broses dychwelyd i hyfforddiant.