Prif leoliad y cwrs yw’r Uned Deintyddiaeth Ôl-radd yn Ysbyty’r Tywysog Charles, Merthyr Tudful. Lleolir yr Uned yng nghefn y prif adeilad, ger mynedfa’r uned famolaeth. Mae arwydd y tu allan i’r adeilad (Uned 3), yn dynodi lleoliad yr Uned Ôlradd. Mae nifer o feysydd parcio mawr ar y safle a’r rheiny am ddim.
Mae yna siop goffi a ffreutur yn yr ysbyty a’r ddau’n cynnig lluniaeth.
Mae gan yr Adran Ddeintyddiaeth Ôl-radd sawl cyfleuster sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd ar gyfer Hyfforddiant Sylfaen Deintyddol a Hyfforddiant Craidd Deintyddol, yn ogystal ag amrywiaeth helaeth o gyrsiau a addysgir a chyrsiau ymarferol ar gyfer yr holl dîm deintyddol. Mae gennym gyfleusterau cyfrifiadurol a hyd at ddeuddeg o fodelau deintyddol gyda darlithfeydd llawn offer a chyfleusterau fideogynadledda. Ceir llyfrgell gynhwysfawr ar y safle ac mae croeso i Therapyddion Sylfaen fenthyg unrhyw lyfrau a’r offer sain/gweledol sydd ar gael. Rydym yn annog pob Goruchwylydd Addysgol a Therapyddion Sylfaen i ddefnyddio’r cyfleusterau hyn drwy’r flwyddyn – gofynnwch i Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant am argaeledd.
Cynhelir nifer o ddiwrnodau astudio ar lwyfannau ar-lein lle bo hynny’n briodol.
Sylwer, bydd Canolfannau Ôl-radd eraill yn cael eu defnyddio ar gyfer diwrnodau astudio, megis yr Ysbyty Deintyddol, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd neu Ysbyty Llandochau, ynghyd â lleoliadau eraill.
TREFNIADAU PARCIO YN LLANDOCHAU
Mae dau opsiwn ar gael i chi:
Mae gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael o Fae Caerdydd, gyda gwasanaeth bws am ddim rheolaidd i ac o’r ysbyty. Mae’n gweithio’n dda hyd yma.
MAE’N DEBYG Y BYDDAI HYN YN HAWS GAN FOD PARCIO AR Y SAFLE YN DOD YN DRAFFERTHUS. DOES DIM ANGEN COFRESTRU AR GYFER Y GWASANAETH.
Mae cyfleusterau parcio ar safle UHL yn cael ei fonitro’n agos gan Parking Eye gan ddefnyddio system gamera Adnabod Rhif Cofrestru Cerbyd Awtomataidd (ANPR). Mae’r rheoliadau’n cael eu gweithredu’n llym a bydd cosbau os nad yw’r rhain yn cael eu dilyn. Fodd bynnag, ni ddylech wynebu problem os byddwch yn cofrestru i ddefnyddio’r meysydd parcio STAFF ymlaen llaw ar ddiwrnod y cwrs. I wneud hyn, e-bostiwch Parking Eye: uhl@parkingeye.co.uk gan gopïo
CAV_UHB.parking.office@wales.nhs.uk yn y neges. Rhowch “Cronfa Ddata UHL” fel Pwnc eich ebost. Dyma fap o’r meysydd parcio. Cofiwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost GIG wrth ysgrifennu at Parking Eye.
Nodwch rif cofrestru eich cerbyd, nodwch y dyddiad y byddwch chi’n mynychu’r cwrs (ac enw’r cwrs) a gofynnwch i gael manylion eich car wedi’i ychwanegu i’r gronfa ddata ar gyfer y diwrnod hwnnw drwy ddefnyddio’r testun canlynol: “A fyddech cystal ag ychwanegu Rhif Cofrestru’r Cerbyd canlynol i’r Gronfa Ddata UHL ar gyfer dydd Gwener, 30 Mehefin 2023”.
Peidiwch â defnyddio Maes Parcio 8 (sydd ar gyfer staff yn unig), nac ychwaith y meysydd parcio ar gyfer cleifion/ymwelwyr oherwydd mae gan rhain gyfyngiad amser pedair awr. Hefyd, peidiwch â pharcio yn y maes parcio i breswylwyr y tu ôl i’r Ganolfan Addysg.
Nid yw’r Ganolfan Addysg yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gosbau i fynychwyr oherwydd methu â chydymffurfio gyda rheoliadau Parking Eye. Mae’r cynllun safle atodedig yn dangos y Ganolfan Addysg, sef yr adeilad brics coch mawr ar y dde wrth i chi yrru drwy’r gât fawr i’r safle (17 ar y cynllun safle). Mae’r cynllun hwn hefyd yn dangos y meysydd parcio sydd heibio ein hadeilad ni ar y safle.
COFIWCH ADAEL DIGON O AMSER I GERDDED YN ÔL I’R GANOLFAN YN OGYSTAL Â PHARCIO.
CYFLEUSTERAU’R YSBYTY
Gallwch brynu cinio a lluniaeth yn y prif ysbyty mewn bwyty, siop goffi a chiosg yn yr adran cleifion allanol.
Gweinyddwr y Cwrs
Addysg Feddygol a Deintyddol, Canolfan Academaidd Routledge
Ysbyty Llandochau, Heol Penlan
Penarth CF64 2XX Ffôn: 029 2071 6342
jayne.davies7@wales.nhs.uk