Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) yw'r cyflogwr arweiniol unigol ar gyfer pob Hyfforddai Sylfaen Therapydd Deintyddol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu mai NWSSP fydd eu cyflogwr yn ystod blwyddyn yr Hyfforddiant Sylfaen. Bydd NWSSP mewn cysylltiad â'ch Therapydd Sylfaen (FT) i gadarnhau manylion am Wiriadau Cyn-gyflogaeth gan gynnwys cais DBS Manylach, manylion ESR a threuliau, gwyliau blynyddol ac ati.
NWSSP fydd y pwynt cyswllt cyntaf os bydd gan eich Therapydd Sylfaen unrhyw ymholiadau ynghylch ei gyflogaeth dros yr ychydig fisoedd nesaf ac yn ystod y flwyddyn Hyfforddiant Sylfaen - NWSSPSLE.Dental@wales.nhs.uk.
Mae'r model SLE yng Nghymru’n fodel cyflogi cydweithredol, gyda chyfrifoldebau'r cyflogwr traddodiadol yn cael eu rhannu rhwng tri phrif randdeiliad, sef:
Cyflogwr Arweiniol Sengl – Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP)
Cyfrifoldeb cyffredinol am gyflogaeth gan gynnwys cyhoeddi llythyrau cynnig cyflogaeth, cwblhau gwiriadau cyflogaeth, cyhoeddi a diwygio contractau cyflogaeth, darparu Yswiriant Indemniad Meddygol ar gyfer gweithgareddau'r GIG, Iechyd Galwedigaethol, cymorth i weithwyr, ceisiadau a gwiriadau DBS manylach, cymorth iechyd a lles, hyfforddiant statudol a gorfodol, talu cyflogau a threuliau, cymhwyso polisïau a gweithdrefnau cyflogaeth mewn cydweithrediad â'r holl randdeiliaid, darparu cyfleusterau Adnoddau Dynol, cyfyngiadau/gwaharddiadau a materion disgyblu.
Mae'r Cyflogwr Arweiniol ei hun yn cynnig un man cyswllt sy'n cydgysylltu â'r holl randdeiliaid.
Sefydliad Lletyol
Yn darparu rheolaeth a goruchwyliaeth o ddydd i ddydd o hyfforddiant gan Oruchwylwyr Addysgol.
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Sicrhau darpariaeth addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel sy'n cynnwys recriwtio ar gyfer rhaglenni hyfforddiant, rhaglenni cymorth ac asesu, datblygu cyfadrannau a monitro ansawdd lleoliadau.
Prif swyddogaeth y tri rhanddeiliad yw sicrhau bod hyfforddeion yn cwblhau eu hyfforddiant yn foddhaol ac, yn sgil hynny, yn darparu gwasanaeth rhagorol i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol lleol yng Nghymru.
Y manteision i'r sefydliadau lletyol ac AaGIC yw:
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y dogfennau canlynol yn cael eu hanfon allan:
|
Enw'r Ddogfen |
Partïon |
Anfonwyd o |
Anfonwyd at |
Dychwelyd i |
|
Cytundeb Lleoliad Hyfforddiant |
AaGIC a'r Practis Lletyol/Bwrdd Iechyd |
AaGIC |
Practis Lletyol |
AaGIC |
|
Cytundeb Rheoli Cyflogaeth |
NWSSP a'r Practis Lletyol/Bwrdd Iechyd |
NWSSP |
Practis Lletyol |
NWSSP |
|
Cytundeb Cyflogaeth a Chytundeb Addysgol |
NWSSP a Therapydd Sylfaen |
NWSSP |
Therapydd Sylfaen Deintyddol |
NWSSP |
Llofnodwch y ddogfen briodol a anfonwyd atoch a'i dychwelyd erbyn y dyddiad penodedig.