Bydd cyflog y Therapydd Sylfaen yn cael ei reoli gan y broses SLE, gan gynnwys treth, yswiriant gwladol, slipiau cyflog a phensiwn.
Gwyliau Blynyddol
Mae gan bob Therapydd Sylfaen hawl i 27 diwrnod o wyliau blynyddol (10 diwrnod pro-rata). Rhaid cyflwyno ceisiadau am wyliau blynyddol gyda rhybudd rhesymol a rhaid i'r ES gytuno arnynt. Yn ogystal, mae ganddyn nhw hawl i gymryd yr 8 gwyliau cyhoeddus arferol yng Nghymru neu'r hyn sy'n cyfateb pro-rata, os ydyn nhw'n gweithio'n rhan-amser. Y flwyddyn gwyliau blynyddol yw 1af Ebrill – 31ain Mawrth. Dylai'r ES gymeradwyo gwyliau blynyddol ac yna eu cofnodi ar yr ESR gan y Therapydd Sylfaen.
Salwch
Rhaid i'r Therapydd Sylfaen hysbysu eu Goruchwyliwr Addysgol ar ddiwrnod cyntaf eu habsenoldeb pan fyddant angen amser i ffwrdd o'u lleoliad oherwydd salwch. Disgwylir iddyn nhw gynnwys natur y salwch.
Mae'n ofynnol hefyd i'r Therapydd Sylfaen hysbysu NWSSP (eu cyflogwr) am unrhyw salwch: NWSSPSLE.Absence@wales.nhs.uk . Ar gyfer unrhyw gyfnod o absenoldeb salwch rhwng un a saith diwrnod calendr, rhaid i'r Therapydd Sylfaen lenwi ffurflen hunanardystio, oni bai ei fod eisoes wedi'i ardystio gan nodyn ffitrwydd neu dystysgrif ysbyty. Dylid cwblhau hyn wrth ddychwelyd i'r gwaith.
Os yw'r cyfnod absenoldeb yn parhau y tu hwnt i saith diwrnod calendr, rhaid i'r Therapydd Sylfaen gynhyrchu nodyn ffitrwydd (tystysgrif feddygol) ar gyfer pob diwrnod o absenoldeb wedi hynny. Fel arfer, dylai'r Goruchwyliwr Addysgol dderbyn nodyn ffitrwydd o fewn tri diwrnod calendr ar ôl iddo ddod yn ddyledus.
Bydd absenoldeb salwch nad yw wedi'i gynnwys gan hunan-dystysgrif na nodyn ffitrwydd yn cael ei drin fel absenoldeb heb awdurdod, ac ni fydd unrhyw daliad yn cael ei wneud amdano.
Ar ôl unrhyw gyfnod o absenoldeb oherwydd salwch, gofynnir i'r Therapydd Sylfaen fynychu cyfweliad dychwelyd i'r gwaith gyda'u Goruchwyliwr Addysgol i drafod eu habsenoldeb ac unrhyw anghenion neu bryderon penodol a allai fod ganddynt.
Ar gyfer unrhyw gyfnodau o absenoldeb, ac eithrio gwyliau blynyddol, sy'n fwy na 14 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn, cynhelir adolygiad i benderfynu a oes angen ymestyn dyddiad cwblhau'r rhaglen. Bydd unrhyw newid i ddyddiad gorffen y rhaglen yn cael ei gadarnhau gan AaGIC.
Gofal Iechyd Cynaliadwy yng Nghymru
Fis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yng Nghymru, a dwy flynedd wedyn cyhoeddwyd ei chynllun ar gyfer GIG “sero net” erbyn 2030. Mewn ymateb i’r addewid hon, cyhoeddwyd Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru.
Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru (llyw.cymru)
Mae gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ran i’w chwarae o ran cefnogi gweithrediad y cynllun hwn, ond gallwn ni i gyd chwarae rhan yn hyn o beth. Disgrifia’r Lancet newid hinsawdd fel “y bygythiad iechyd byd-eang mwyaf y mae’r byd yn ei wynebu yn y 21ain ganrif”.
Gall meddwl am newid hinsawdd fod yn frawychus (mae hyn yn ymateb normal i newyddion drwg; gelwir hyn yn eco-drallod). Gall cydnabod sut ry’n ni’n teimlo, a sut ry’n ni’n gweithredu, wneud inni deimlo’n fwy positif.
Dyma rai camau bach y gallwch chi eu rhoi ar waith:
Mae deintyddiaeth yn wynebu heriau mawr yn helpu i daclo’r broblem, yn enwedig ynghylch dadhalogi, gwaredu gwastraff a’r defnydd o blastigau untro. Mae allyriadau gwasanaethau deintyddol y GIG yn cynrychioli 3% o ôl-troed carbon cyffredinol y GIG.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Gynaliadwyedd ym maes Deintyddiaeth, cliciwch y ddolen isod i gael mynediad i adnodd arbennig ar wefan y Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy.
Sustainable Dentistry: How-to Guide for Dental Practices | Centre for Sustainable Healthcare
Mae Gofal Iechyd Cynaliadwy yn darparu gobaith ar gyfer dyfodol a phlaned iachach.
Dyna pam mae’r Lancet hefyd yn disgrifio newid hinsawdd fel “y cyfle mwyaf i ailddiffinio penderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd”.