Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Hyfforddiant Sylfaenol Therapi Deintyddol Cymru (WDTFT)

Mae Rhaglen Hyfforddiant Sylfaenol Therapi Deintyddol Cymru wedi'i hanelu at Therapyddion Deintyddol i ddarparu'r hyfforddiant a'r addysg sydd eu hangen ymarfer yn yr amgylchedd Ymarfer Deintyddol Cyffredinol.

Rhoddir pwyslais ar ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol y cwrs.  Anogir  Therapydd WDTFT i ddatblygu ac ehangu'r sgiliau clinigol a phersonol a ddysgwyd fel myfyriwr neu mewn canghennau eraill o ddeintyddiaeth.

Ar ôl cofrestru gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, bydd ymarferydd moesegol yn cadw'n gyfredol trwy fynychu cyfarfodydd, sioeau masnach a dilyn cyrsiau sydd ar gael ar y Rhaglen DCP.

Mae Therapyddion Deintyddol yn aelodau gwerthfawr o'r tîm deintyddol, y mae eu rôl wedi datblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.  Maent yn darparu ystod eang o wasanaethau i gleifion, gan gynnwys cymryd radiograffau, cynllunio triniaeth, perfformio adferiadau uniongyrchol o fewn eu cwmpas ymarfer a thynnu dannedd cynradd.