Bydd y Llawlyfr hwn wedi cael ei anfon atoch ar ôl i chi dderbyn Therapydd Sylfaen i'ch ymarfer.
Cyn dechrau ymarfer, dylech fod wedi:
- Trafod a chytuno ar eich oriau gwaith gyda'ch Therapydd Sylfaen
- Cytuno ar ddiwrnod cychwyn mewn ymarfer, yn unol â'r "dyddiad cychwyn wythnos" a ddarparwyd gan y Swyddog Gweinyddol, Deoniaeth Ddeintyddol, Cyfarwyddiaeth Feddygol
- Bodloni eich hun eich bod chi'n gallu:
- Cynorthwyo'r Therapydd Sylfaen gyda'i eBortffolio
- Cydymffurfio â thelerau eraill y Contract
Byddwch chi a'ch Therapydd Sylfaen wedi hysbysu'r Swyddog Gweinyddol, Deoniaeth Ddeintyddol, Cyfarwyddiaeth Feddygol am eich apwyntiad.
Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf o ymarfer dylech fod wedi:
- Cael mynediad at e-Bortffolio Datblygiad Proffesiynol y Therapydd
- Cwblhau y tudalennau Goruchwyliwr Addysgol a manylion personol
- Cael trafodaeth gychwynnol gyda'ch Therapydd Sylfaen, wedi cwblhau’r rhestr wirio profiad clinigol cychwynnol ac wedi cynhyrchu cynllun gweithredu
- Derbyn copi o amserlen y diwrnod astudio