Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Gwella Cadw Gyda'n Gilydd

Pam mae cadw staff yn bwysig?

Mae cadw gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gweithlu GIG Cymru yn hanfodol i gynnal gofal cleifion diogel ac o ansawdd uchel.

Mae cadw staff cryf yn cefnogi lles staff, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, cymhelliant ac ymgysylltiad ac yn sicrhau bod dechreuwyr newydd yn cael eu meithrin a'u hintegreiddio'n effeithiol.

Drwy ddiogelu arbenigedd ei weithlu yng nghyfnodau diweddarach ei yrfa ac adeiladu piblinell gref o recriwtiaid newydd, gall GIG Cymru well ddiwallu gofynion gwasanaeth a sgiliau esblygol.

I gleifion, mae hyn yn arwain at ofal mwy cyson, diogel ac o ansawdd uchel a ddarperir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol o fewn timau cefnogol a sefydlog.

 

Sut allwch chi helpu?

Mae gwella cadw cydweithwyr ar draws GIG Cymru yn gyfrifoldeb i bawb ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan wrth gefnogi ein gilydd i Berthyn, Ffynnu ac Aros.

Er mwyn eich helpu i wneud gwahaniaeth, mae AaGIC wedi datblygu ystod o adnoddau gwella cadw staff mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws GIG Cymru.n Datblygwyd yr adnoddau hyn fel rhan o'r Rhaglen Gadw Genedlaethol ar gyfer GIG Cymru, a arweiniwyd gan AaGIC rhwng 2023 a 2026.

 

Adnoddau defnyddiol