Mae 'Cymru Iachach: Strategaeth ein Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol' yn nodi’r uchelgais i gael gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig, ymroddedig sy’n cael ei werthfawrogi. Ei nod yw sicrhau’r gallu, y cymhwysedd a’r hyder i ddiwallu anghenion pobl Cymru.
Lansiwyd y strategaeth 10 mlynedd ym mis Hydref 2022 gennym ni (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae wedi cael mewnbwn sylweddol gan ein partneriaid.
Gyda 32 o gamau gweithredu ar draws saith thema, mae'r meysydd canlynol wrth wraidd y cynllun hwn:
Er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn parhau i fod yn gyfredol, yn gredadwy ac yn ystyried y byd sy'n newid yn gyflym o'n cwmpas, mae wedi'i rhannu'n dri cham:
Mae gwaith wedi hen ddechrau i ddatblygu cynllun gweithredu cam II.