Neidio i'r prif gynnwy

Gyrfaoedd Gwyddor Gofal Iechyd yn GIG Cymru

Mae Gweithwyr Proffesiynol Gwyddor Gofal Iechyd yn chwarae rhan hanfodol wrth atal, gwneud diagnosis a thrin nifer fawr o gyflyrau meddygol, yn ogystal ag adsefydlu cleifion. 

Mae bron unrhyw ymchwiliad neu driniaeth i gleifion yn dibynnu ar y gwaith a wneir gan broffesiynau gwyddor gofal iechyd - o wyddonwyr biofeddygol sy'n darparu gwybodaeth ddiagnostig am waed a meinwe, i wyddonwyr darlifiad clinigol sy'n galluogi llawfeddygon i wneud triniaethau cymhleth ar y galon a'r ysgyfaint. 

Mae ymchwil ac arloesi hefyd yn rhan allweddol o wyddor gofal iechyd, gan ddatblygu dulliau newydd o ganfod a monitro clefydau, dylunio offer newydd, a chyflwyno triniaethau newydd. Mae datblygiadau cyflym mewn technoleg yn golygu mai dyma un o feysydd mwyaf cyffrous, heriol a gwerth chweil y GIG i weithio ynddo. 

Mae gwyddor gofal iechyd yn GIG Cymru yn cynnig gyrfaoedd cyffrous ar draws chwe theulu proffesiynol: 

  • Ffisiolegwyr 

  • Gwyddonwyr Labordy a Genomig 

  • Gwyddonwyr ffisegol a pheirianwyr 

  • Gwyddonwyr cyfrifiadurol clinigol 

  • Ymarferwyr yr adran lawdriniaethau 

  • Radiograffwyr 

 

Dechreuwch drwy archwilio'r tudalennau gyrfaoedd uchod i ddysgu am y gwahanol rolau gwyddor gofal iechyd a'r hyn y gallai fod angen i chi ei astudio. Os ydych chi eisiau mwy o fanylion am sut mae'r gyrfaoedd wedi'u trefnu a pham, gallwch ddarllen Fframwaith Gyrfaoedd Gwyddor Gofal Iechyd GIG Cymru . Meddyliwch amdano fel map sy'n dangos gwahanol rolau swyddi, beth mae pobl yn ei wneud ynddynt, a sut allwch chi symud o swyddi dechreuwyr i rai mwy datblygedig wrth i chi ddysgu ac ennill profiad.