Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdai cyfnewid dysgu ar gyfer GIG Cymru

Un gweithlu. Dysgu ar y cyd. Canlyniadau gwell.  

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnal nifer o weithdai rhyngweithiol Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer gweithlu GIG Cymru. Mae pob gweithdy yn 45 munud ac yn agored i bob proffesiwn. Yn trafod ystod eang o bynciau, maent wedi'u cynllunio i sbarduno trafodaeth, cefnogi datblygiad proffesiynol, meithrin sgiliau sy'n berthnasol i ymarfer a chysylltu cydweithwyr ar draws y gweithlu. 

Archebwch eich lle gan ddefnyddio'r dolenni unigol: 

Ein Gweithdai 
Dyddiad 
Dolen gofrestru 
Eich Canllaw i Pam Mae Cwrteisi yn Achub Bywydau: Ymddygiadau Bach, Effaith Fawr 17 Medi 2026
13:00 - 14:00  
 Cofrestru 
Eich Canllaw i’r Newid Oherwydd Deallusrwydd Artiffisial (AI): Yr hyn sydd Angen i Weithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd ei Wybod Nawr 22 Hydref 2026
13:00 - 14:00  
Cofrestru 
Eich canllaw i Wella Ansawdd heb y jargon: y sgiliau rydych chi eisoes yn eu defnyddio bob dydd   19 Tachwedd 2026
13:00 - 14:00  
Cofrestru 
Eich Canllaw Sgiliau Hyfforddi ar gyfer Arweinwyr Clinigol: Ydym Ni'n Gofyn y Cwestiynau Cywir?   17 Rhagfyr 2026
13:00 - 14:00  
Cofrestru 
Rhagor o fanylion yn fuan!   21 Ionawr 2027
13:00 - 14:00 
 
Eich Canllaw i Leihau Niwed sy'n Deillio o Ddirywiad Acíwt: Cleifion a Theuluoedd fel Partneriaid  18 Chwefror 2027
13:00 - 14:00  
Cofrestru
Rhagor o fanylion yn fuan!  18 Mawrth 2027
13:00 - 14:00 
 
Rhagor o fanylion yn fuan!  15 Ebrill 2027
13:00 - 14:00  
 
Rhagor o fanylion yn fuan!  20 Mai 2027
13:00 - 14:00  
 
Rhagor o fanylion yn fuan!  17 Mehefin 2027
13:00 - 14:00 
 
Rhagor o fanylion yn fuan!  15 Gorffennaf 2027
13:00 - 14:00  
 
Rhagor o fanylion yn fuan!  19 Awst 2027
13:00 - 14:00  
 

 

Archwiliwch ein gweithdai 
Dan arweiniad Dr Chris Turner, Ymgynghorydd Meddygaeth Frys a chyd-sylfaenydd y mudiad Civility Saves Lives a gydnabyddir yn rhyngwladol, mae'r sesiwn ryngweithiol hon yn mynd y tu hwnt i wrando ac yn annog cyfranogwyr i archwilio effaith wirioneddol ymddygiadau yn y gweithle gyda'i gilydd. Trwy drafodaeth wedi'i hwyluso, profiadau a rennir a myfyrio, bydd cyfle gennych i gyfrannu eich canfyddiadau eich hun, dysgu gan gydweithwyr ar draws proffesiynau a chyfrannu’n dorfol i ddulliau ymarferol i greu gweithleoedd mwy parchus a mwy diogel. Gan dynnu ar dystiolaeth, enghreifftiau gofal iechyd a'r arbenigedd cyfunol yn yr ystafell, bydd y gweithdy hwn yn dangos sut y gall ymddygiadau bach gael effaith fawr ar waith tîm, gwneud penderfyniadau a diogelwch cleifion. 

 

Mae AI eisoes yn newid gofal iechyd – ond beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i glinigwyr a gweithlu ehangach y GIG? Dan arweiniad Alex Aubrey o AaGIC, mae'r sesiwn ryngweithiol hon yn darparu archwiliad hygyrch, heb jargon, o'r cyfleoedd a'r heriau y mae AI yn eu cyflwyno. Yn hytrach na chyflwyniad traddodiadol, gwahoddir cyfranogwyr i rannu eu profiadau, eu cwestiynau a'u pryderon eu hunain, gan greu lle i ddysgu oddi wrth ei gilydd wrth archwilio sut y gall AI ategu cynhyrchiant, addysg, gofal cleifion ac arloesedd. P'un a ydych chi'n chwilfrydig am AI neu eisoes yn arbrofi gydag offer newydd, byddwch chi'n gadael gyda mewnwelediadau ymarferol a dealltwriaeth ehangach o sut y gellir defnyddio AI yn gyfrifol, yn hyderus ac yn effeithiol mewn ymarfer o ddydd i ddydd.

Gall Gwella Ansawdd deimlo weithiau fel disgyblaeth ar wahân, yn llawn iaith a dulliau anghyfarwydd. Mewn gwirionedd, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn defnyddio'r un egwyddorion bob dydd wrth ofalu am gleifion.

Dan arweiniad yr arweinwyr gwella profiadol Elinore McGillivray a Donna James, bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn archwilio sut y gellir cymhwyso'r dull clinigol o ofalu am glaf sy'n sâl i wella gwasanaethau a systemau. Rydym yn gwneud diagnosis o broblemau, yn casglu tystiolaeth, yn penderfynu ar ymyriadau, yn monitro cynnydd ac yn addasu ein dull yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwn. Mae Gwella Ansawdd yn dilyn yr un rhesymeg .

Gan ddefnyddio enghreifftiau ymarferol o ymarfer clinigol a gwella gwasanaethau, bydd cyfranogwyr yn darganfod sut y gellir trosglwyddo eu sgiliau a'u gwybodaeth bresennol o ofal cleifion unigol i wella canlyniadau ar gyfer poblogaethau, timau a gwasanaethau.

P'un a ydych chi'n newydd i Wella Ansawdd neu eisoes yn ymwneud â gwaith gwella, bydd y sesiwn hon yn dangos nad yw gwella yn rhywbeth ychwanegol i'w ddysgu - mae'n ffordd o feddwl a gweithio y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eisoes yn eu defnyddio bob dydd.

 

 

Dan arweiniad Annie Taylor ac Olivia Crossing o RateMyShift, bydd y gweithdy hynod ryngweithiol hwn yn cyflwyno sgiliau hyfforddi ymarferol a all atgyfnerthu sgyrsiau, datblygu timau a chynorthwyo twf proffesiynol. Trwy drafodaeth, profiadau a rennir a senarios bywyd go iawn, bydd cyfle gan gyfranogwyr i ymarfer dulliau newydd, dysgu gan gyfoedion ac archwilio sut y gellir cymhwyso technegau hyfforddi mewn sefyllfaoedd arwain bob dydd. P'un a ydych chi'n rheoli tîm yn ffurfiol neu'n dylanwadu ar eraill trwy eich rôl, bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddatblygu sgiliau holi a gwrando sy'n grymuso cydweithwyr ac yn datgloi potensial. 

 

Ymunwch â Chris Hancock, Rheolwr Rhwydwaith APDI ac arweinydd profiadol ym maes diogelwch cleifion a gwella ansawdd, am sesiwn graff sy'n archwilio sut y gall cleifion a theuluoedd chwarae rhan hanfodol wrth leihau niwed y gellir ei osgoi sy'n deillio o ddirywiad acíwt. 

Bydd y weminar yn tynnu sylw at bwrpas ‘Galwad am Bryder’ (Call for Concern), gan gynnwys Uwchgyfeirio a Gychwynnir gan Gleifion a Theuluoedd, a sut y mae'n cefnogi adnabod problemau'n gynharach, uwchgyfeirio'n gliriach ac ymatebion mwy diogel pan fo cyflwr claf yn gallu bod mewn sefyllfa lle mae’n gwaethygu. Gan dynnu ar brofiad helaeth Chris ledled GIG Cymru, gan gynnwys gweithredu Sgoriau Rhybudd Cynnar a gwaith gwella sy'n ymwneud â dirywiad acíwt, bydd y weminar hon yn cynnig mewnwelediad ymarferol i'r ffordd y gellir trosi canllawiau cenedlaethol yn newid ystyrlon a chynaliadwy.