Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Sefydlu Hyfforddwyr

Anogir pob unigolyn sy'n ymrwymo i ymgymryd â rôl hyfforddwr meddygol mewn gofal eilaidd neu addysg israddedig yn gryf i gymryd rhan mewn sefydlu hyfforddwr. 

Nod y cyfnod sefydlu yw cefnogi hyfforddwyr i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i'w galluogi i ddarparu goruchwyliaeth a chymorth effeithiol i'w hyffordd(iaid) ac i hyrwyddo amgylcheddau dysgu diogel a chadarnhaol lle gall meddygon preswyl ffynnu. 

Mae AaGIC yn cynnal diwrnod sefydlu wyneb yn wyneb blynyddol sydd wedi’i anelu’n bennaf at unigolion sy'n newydd i rôl hyfforddwr meddygol ac sydd ar hyn o bryd yn ymgymryd ag un neu fwy o'r rolau hyfforddwr meddygol canlynol y mae angen eu cydnabod gan y GMC o dan ei drefniadau ar gyfer cydnabod hyfforddwyr mewn gofal eilaidd ac addysg israddedig:

  • Goruchwylwyr Addysgol 
  • Goruchwylwyr Clinigol Enwebedig 
  • Y rhai sy'n gyfrifol am oruchwylio cynnydd myfyrwyr ym mhob ysgol feddygol 
  • Cydlynwyr arweiniol ym mhob Darparwr Addysg Lleol 

Gwahoddir meddygon preswyl yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant meddygol ôlraddedig hefyd i'w paratoi ar gyfer dod yn hyfforddwyr yn y dyfodol. 

Cynhelir Rhaglen Sefydlu Hyfforddwyr Meddygol 2026 ddydd Mercher 21 Hydref 2026 yn Stadiwm Swansea.com (rhaid cofrestru pob mynychwr ymlaen llaw). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we'r digwyddiad. 

I'r rhai na allant fod yn bresennol yn bersonol, mae pecyn sefydlu arlein sy'n cynnwys y recordiadau o ddiwrnod sefydlu blaenorol ar gael i'w weld. 

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Uned Ansawdd AaGIC