Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr Nyrsio Cyn-gofrestru Rhyngwladol

Hydref 2026: Sylwch ein bod yn aros am gadarnhad y bydd y cyllid yn parhau o fis Medi 2027 ymlaen.

Diolch am ymweld â thudalen Nyrsio Cyn-gofrestru Rhyngwladol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae AaGIC, ar y cyd â phartneriaid allanol, wedi datblygu prosiect peilot cyffrous a gafodd gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2023 am gyfnod o bedair blynedd.

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ffigurau ar nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys sydd eu hangen er mwyn i nyrsys ymuno â’r gweithlu sy’n darparu gwasanaethau o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. I fyfyrwyr cymwys sy’n hanu o’r DU, mae Bwrsariaeth GIG Cymru ar gael i’w hariannu i ddilyn cwrs nyrsio cyn-gofrestru, gyda’r disgwyliad y byddant yn gweithio i GIG Cymru neu mewn amgylchedd gofal iechyd tebyg yng Nghymru am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus a chofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).

Am y tro cyntaf, mae nifer o leoedd tebyg a ariennir ar gyfer nyrsio oedolion yn unig ar gael i ymgeiswyr rhyngwladol nad ydynt wedi dechrau cwrs nyrsio nac wedi cwblhau rhaglen nyrsio, naill ai mewn unrhyw wlad arall neu yn y DU, sydd wedi arwain at gofrestru fel nyrs. Yn yr un modd â myfyrwyr sy’n hanu o’r DU, disgwylir i raddedigion rhyngwladol weithio i GIG Cymru neu mewn amgylchedd gofal iechyd tebyg yng Nghymru am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus a chofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).

Manylion

  • Bydd darpar ymgeiswyr yn dilyn Gradd Baglor mewn Nyrsio yn amser llawn dros gyfnod o 3 blynedd, ac ar ôl cwblhau eu hastudiaethau’n llwyddiannus byddant yn mynd ymlaen i weithio yng Nghymru am o leiaf 24 mis.
  • Telir yr holl ffioedd dysgu am 3 blynedd y cwrs Gradd Baglor mewn Nyrsio amser llawn (ac eithrio Prifysgol Caerdydd, sy’n codi ffioedd ychwanegol).
  • Taliad untro o £500 i dalu costau sy’n gysylltiedig ag adleoli i Gymru ac ymgartrefu.
  • Bydd myfyrwyr hefyd yn cael grant blynyddol o £1,000 i’w cefnogi yn ystod eu hastudiaethau.
  • Cymorth ariannol tuag at gostau teithio a llety sy’n gysylltiedig â lleoliadau, yn unol â chanllaw AaGIC ar dreuliau lleoliadau:
    https://heiw.nhs.wales/test-area/unallocated-items/our-work/nursing-and-midwifery/placement-information/docs/payment-of-placement-expenses/
  • Cymorth gan y sefydliad addysg uwch (SAU) i gwrdd â myfyrwyr eraill, dod o hyd i lety ac ymgyfarwyddo â byw ac astudio yng Nghymru.
  • Bydd Byrddau Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r SAU i sicrhau’r cyfleoedd lleoli angenrheidiol er mwyn i’r myfyriwr fodloni gofynion y cwrs.
  • Sylwch fod symud ymlaen o un flwyddyn i’r nesaf yn dibynnu ar gwblhau holl ddeilliannau theori ac ymarfer pob blwyddyn o’r rhaglen yn llwyddiannus. Os bydd angen ail-wneud modiwlau neu asesiadau, gallai hyn olygu cost ychwanegol i chi a gallai fod â goblygiadau posibl o ran eich fisa.
  • Cyllid
  • Bydd AaGIC yn talu’r cyfan neu ran o’r ffioedd dysgu, yn dibynnu ar y brifysgol.
  • Bydd pob myfyriwr yn cael grant atodol untro o £500 i’w helpu i ymgartrefu.
  • Bydd pob myfyriwr yn cael taliad blynyddol o £1,000 i’w gefnogi gyda’i astudiaethau.

Ymrwymiad i weithio yng Nghymru

  • Os bydd y myfyriwr yn dewis derbyn cynnig am le mewn sefydliad addysg uwch (SAU) a chyllid drwy’r prosiect peilot, bydd yn ofynnol iddo ymrwymo i weithio yng Nghymru mewn Cyflogaeth Addas am o leiaf 24 mis ar ôl cwblhau’r cwrs.
  • Os na fydd y myfyriwr yn derbyn Cyflogaeth Addas ar ôl cwblhau’r prosiect peilot, bydd yn ofynnol iddo ad-dalu cyfanswm cost y cwrs.
  • Os bydd y myfyriwr yn ymddiswyddo cyn cwblhau’r 24 mis o Gyflogaeth Addas, bydd yn ofynnol iddo ad-dalu cyfran o gostau’r cwrs. Bydd manylion hyn wedi’u nodi yn y ‘contract’.
  • Os bydd y myfyriwr yn aros mewn Cyflogaeth Addas am 24 mis ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus a chofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ni fydd unrhyw gostau i’w had-dalu.

Darpariaethau Ad-dalu

  • Os bydd y myfyriwr yn gadael cyn cwblhau 24 mis o Gyflogaeth Addas, bydd yn ofynnol iddo ad-dalu rhywfaint o’i ffioedd dysgu neu’r cyfan ohonynt.
  • Bydd y cyfnod gwasanaeth yn cael ei gyfrifo o ddyddiad gorffen y cwrs neu’r Gyflogaeth Addas.
  • Ceir amgylchiadau cyfyngedig lle bydd y myfyriwr wedi’i eithrio rhag ad-dalu costau’r cwrs, sef:
  1. Methu’r cwrs; neu
  2. Amgylchiadau eithriadol, e.e. salwch; neu
  3. Nad oes Cyflogaeth Addas ar gael i’r myfyriwr.
  4. AaGIC yn unig fydd â’r hawl i benderfynu ynghylch unrhyw amgylchiadau eithriadol.
  5. Nid yw unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â mynychu’r cwrs, ac eithrio’r ffioedd dysgu, wedi’u cynnwys yn y darpariaethau hyn ar gyfer adennill ad-daliadau. Gall costau o’r fath gynnwys costau teithio a llety. Ni fydd gofyn ad-dalu costau o’r fath oni bai y canfyddir nad oedd gan y myfyriwr hawl i gael y treuliau hynny.

 

Ble gallwch chi astudio?

Mae chwe phrifysgol yng Nghymru sy’n cynnig rhaglenni Nyrsio Rhyngwladol cyn cofrestru. Fel arfer, ceir dau gyfnod derbyn y flwyddyn, yn yr hydref a’r gwanwyn. Fodd bynnag, dim ond yn y gwanwyn y mae rhai prifysgolion yn derbyn myfyrwyr. Gall nifer y lleoedd a ddyrennir i fyfyrwyr rhyngwladol amrywio bob blwyddyn.

Isod ceir dolenni i bob un o’r sefydliadau. Rydym yn argymell eich bod yn edrych ar wefannau pob un o’r prifysgolion ac yn darllen eu tudalennau nyrsio. Bydd timau derbyn y prifysgolion yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch eich cymhwystra i wneud cais am eu cyrsiau ac, felly, eich cymhwystra ar gyfer cyllid y prosiect Nyrsio Rhyngwladol Cyn-gofrestru.


Dolenni prifysgolion

  1. Prifysgol Aberystwyth – Nyrsio: Astudio Gyda Ni, Prifysgol Aberystwyth
  2. Prifysgol Bangor – Nyrsio ym Mhrifysgol Bangor
  3. Prifysgol Caerdydd – Nyrsio – Astudio – Prifysgol Caerdydd
  4. Prifysgol Abertawe – Dod yn Nyrs – Prifysgol Abertawe
  5. Prifysgol De Cymru – Nyrsio – Prifysgol De Cymru
  6. Prifysgol Wrecsam – Nyrsio Oedolion – Prifysgol Wrecsam

Sylwch: rydym yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer recriwtio rhyngwladol – Rhestr Cymorth a Diogelu’r Gweithlu Sefydliad Iechyd y Byd, 2023.

Os ydych yn gwneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol neu drwy asiant, nid yw’r Brifysgol na’i hasiantau yn codi ffi am wneud cais.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich cais, neu os hoffech gyflwyno unrhyw bryderon, cysylltwch â’r brifysgol drwy e-bost yn y lle cyntaf.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich cais, neu os hoffech gyflwyno unrhyw bryderon, cysylltwch â’r brifysgol drwy e-bost yn y lle cyntaf.

 Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)

Sylwch ein bod yn diweddaru ein gwybodaeth yn rheolaidd, ac mae’r dudalen we benodol hon yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol.