Wedi'i ariannu gan y Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd, mae Cymrodoriaeth Trawsnewid Gwasanaethau Gwyddor Gofal Iechyd yn cynnig hyd at £3,500 i gefnogi gweithwyr proffesiynol o unrhyw ddisgyblaeth o fewn Gwyddor Gofal Iechyd yng Nghymru.
Mae'r cyfle unigryw hwn yn galluogi cymrodyr i ymweld ag adrannau neu ganolfannau rhagoriaeth y tu allan i Gymru i ennill sgiliau, mewnwelediadau ac arferion enghreifftiol newydd, gan ddod â syniadau trawsnewidiol yn ôl i wella gwasanaethau'n lleol.
Mae unrhyw weithiwr GIG Cymru sy'n gweithio o fewn proffesiwn Gwyddor Gofal Iechyd yn gymwys i wneud cais.
Rydym yn croesawu’n arbennig y rhai sydd wedi:
Noder: Nid ydych yn gymwys i wneud cais os ydych chi wedi derbyn cymrodoriaeth yn y gorffennol.
Mae'r gymrodoriaeth trawsnewid gwasanaeth yn cynnig manteision sy'n gwneud gwahaniaeth:
Mae'r gymrodoriaeth yn darparu cyllid i gefnogi ymweliadau â chanolfannau rhagoriaeth fel y gallwch chi ennill sgiliau newydd ac adeiladu partneriaethau.
Pwysig i'w wybod:
| Beth sydd wedi'i gynnwys | NI fydd y cyllid yn talu am |
|---|---|
| Costau teithio, llety a fisa ar gyfer eich ymweliad. | Bwyd a diod |
| Gall ymweliadau bara o 2 ddiwrnod hyd at 3 wythnos, yn dibynnu ar eich prosiect. | Mynychu cynadleddau neu ddarlithoedd |
| Gallwch wneud cais am un ymweliad neu fwy, os yw hynny wedi'i gyfiawnhau a'i gynnwys yn eich cais cychwynnol. | Ymweliadau sydd eisoes wedi'u cwblhau neu ar y gweill |
| Ôl-lenwi cyflog |
Am ymholiadau, e-bostiwch: HEIW.HCS@wales.nhs.uk