Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Llythrennedd Genomeg Cymru 2026

Genomeg. Trawsnewid Gofal. Gwella Bywydau.
O ddydd Llun 16 i ddydd Gwener 20 Tachwedd, rydym yn cynnal Wythnos Llythrennedd Genomeg Cymru 2026.


Mae'r wythnos yn gyfle i gydweithwyr GIG Cymru ddysgu mwy am ofal iechyd genomig a sut mae'n cefnogi gwell diagnosis, triniaeth a gofal i gleifion a theuluoedd ym mhob maes ymarfer clinigol.

Byddwn yn cynnal cyfres o weminarau am ddim ac yn rhannu adnoddau dysgu digidol, astudiaethau achos ac enghreifftiau o arfer da i ddangos yr effaith gadarnhaol mae genomeg eisoes yn ei chael ledled GIG Cymru.

Bydd y rhaglen lawn o weminarau ar gael ar y dudalen we hon cyn bo hir, felly dewch yn ôl am ddiweddariadau.


Sut alla i gymryd rhan?

P'un a ydych chi'n gweithio ym maes nyrsio, meddygaeth, fferylliaeth, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd, gwyddor gofal iechyd, iechyd cyhoeddus, arweinyddiaeth, gweinyddiaeth neu wasanaethau cymorth, mae genomeg yn dod yn rhan gynyddol bwysig o ofal iechyd.

Rydym yn gwahodd cydweithwyr o bob rhan o GIG Cymru i gymryd rhan yn Wythnos Llythrennedd Genomeg Cymru i rannu sut mae genomeg yn gwneud gwahaniaeth yn eu rôl, eu gwasanaeth neu eu sefydliad.

Gallwch gyfrannu drwy:

  • rhannu astudiaeth achos, fideo, blog neu stori claf (gyda chaniatâd)
  • cyflwyno cyflwyniad neu weminar ar-lein
  • arddangos arloesedd ac arfer da
  • rhannu eich profiadau, mewnwelediadau neu daith ddysgu genomeg
  • helpu i hyrwyddo'r wythnos trwy eich rhwydweithiau a'ch sianeli cyfryngau cymdeithasol.


Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr genomeg i gymryd rhan. Os oes gennych stori, profiad, syniad neu enghraifft o sut mae gofal iechyd genomig yn cefnogi cleifion, teuluoedd neu gymunedau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Os hoffech gymryd rhan yn Wythnos Llythrennedd Genomeg Cymru 2026, cysylltwch ag heiw.genomics@wales.nhs.uk i drafod sut y gallwch gymryd rhan.
 

Ymunwch â ni i rannu sut mae genomeg yn gwneud gwahaniaeth ar draws gofal iechyd yng Nghymru.