Neidio i'r prif gynnwy

Trac Academaidd Clinigol Cymru (WCAT)

Llwybr Academaidd Clinigol Cymru (WCAT) 

Mae rhaglen Llwybr Academaidd Clinigol Cymru (WCAT) yn cynnig cyfle cyffrous i feddygon a deintyddion gyfuno hyfforddiant clinigol ag ymchwil o safon fyd-eang, gan ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o academyddion clinigol yng Nghymru. 

Caiff WCAT ei chyflwyno drwy bartneriaeth rhwng Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a phrifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe. Mae’n darparu llwybr hyfforddi clinigol-academaidd cwbl integredig, o’r adeg y bydd unigolyn yn dechrau hyfforddiant arbenigol hyd at y Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT). 

Mae preswylwyr WCAT yn elwa ar y canlynol: 

  • Rhaglen hyfforddi clinigol-academaidd drwy gydol y rhaglen 

  • PhD tair blynedd wedi’i ariannu’n llawn os na sicrhawyd cyllid cymrodoriaeth 

  • 20% o amser academaidd wedi’i ddiogelu drwy gydol yr hyfforddiant clinigol 

  • Goruchwyliaeth arbenigol gan glinigwyr ac ymchwilwyr blaenllaw 

  • Cyfleoedd i ddatblygu ymchwil sy’n gwella gofal cleifion ac yn llywio dyfodol gofal iechyd 

Pa un a ydych yn frwd dros ymchwil, arloesi, addysg neu arweinyddiaeth, mae WCAT yn darparu’r cymorth, yr amser a’r adnoddau i feithrin gyrfa werth chweil sy’n cyfuno rhagoriaeth glinigol â chyflawniad academaidd. 

Dysgu Rhagor am y Rhaglen 

Ar y dudalen hon, gallwch ddysgu rhagor am WCAT drwy’r canlynol: 

  • Llawlyfr Preswylwyr - canllaw cynhwysfawr i’r rhaglen a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl drwy gydol eich hyfforddiant 

  • Cwestiynau Cyffredin -  atebion i ymholiadau cyffredin am gymhwystra, ceisiadau a hyfforddiant 

  • Gwybodaeth am Recriwtio - manylion am y broses ymgeisio, yr amserlenni a’r gofynion allweddol 

  • Tystebau Preswylwyr - clywch yn uniongyrchol gan breswylwyr WCAT presennol a blaenorol am eu profiadau a’u cyflawniadau 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â HEIW.WCAT@wales.nhs.uk.

Llawlyfr Preswylwyr WCAT
Recriwtio a Chymhwystra
Cwestiynau Cyffredin

Os oes gennych gwestiwn, edrychwch yma'n gyntaf.

Pobl

Manylion cyswllt ar gyfer TPD, arweinyddion, timau Prifysgol ac ati

Tystebau WCAT

Peidiwch â chymryd ein gair ni amdano…. clywed gan hyfforddeion WCAT presennol a blaenorol