Neidio i'r prif gynnwy

Data Hyfforddeion a Rheoli Data

Hysbysiad o Newid mewn Amgylchiadau

Rhaid i chi roi gwybod i'r Gweinyddwr DCT a NWSSP cyn gynted â phosibl os ydych wedi/yn bwriadu newid eich amgylchiadau yn ystod eich rhaglen hyfforddi. Gallai newidiadau effeithio ar sut mae eich taliadau cyflog yn cael eu gwneud a dyddiad gorffen eich hyfforddiant, felly mae'n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i'r holl dimau perthnasol.

Diweddariadau/newidiadau y mae angen rhoi gwybod amdanynt:

  • Newid manylion personol fel newid cyfeiriad neu e-bost ac ati
  • Ceisiadau Tu Allan i’r Rhaglen
  • Ceisiadau i Drosglwyddo Rhwng Deoniaethau
  • Hysbysiad o gyfnodau o absenoldeb oherwydd salwch, absenoldeb mamolaeth/tadolaeth neu wasanaeth rheithgor
  • Ymddiswyddo o Raglen Hyfforddi

Data Monitro Cydraddoldeb

Mae AaGIC wedi ymrwymo i gefnogi gweithlu amlbroffesiwn ac amrywiol sy’n cynrychioli staff ar draws GIG Cymru a’r cleifion rydym ni i gyd yn eu gwasanaethu yn y pen draw. Mae’n hanfodol bod yr holl staff a’r hyfforddeion rydym ni’n eu cefnogi yn teimlo eu bod yn cael croeso, yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu galluogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i weithredu rhaglenni gwaith sy’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â Chyrhaeddiad Gwahaniaethol ar draws ein hyfforddeion. Er mwyn cyflawni hyn a sicrhau bod ein strategaethau a'n polisïau yn y dyfodol yn ystyried amrywiaeth yr hyfforddeion rydym ni'n eu cefnogi, gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb cwestiynau Monitro Cydraddoldeb ar unrhyw arolygon rydym ni'n eu rhyddhau.

Codi

Mae AaGIC yn defnyddio cronfa ddata Codi i storio data allweddol ar yr holl swyddi gradd hyfforddi a hyfforddeion. Prif swyddogaethau'r gronfa ddata yw:

  • Mecanwaith olrhain ar gyfer cyllid AaGIC ar gyfer yr holl swyddi hyfforddi
  • Adroddiadau lleol (at ddibenion AaGIC/Bwrdd Iechyd) a chenedlaethol (Llywodraeth Cymru) a'r DU (GDC)
  • Rheoli ceisiadau am Absenoldeb Astudio gan Hyfforddeion a Byrddau Iechyd
  • Rheoli cofnodion o ganlyniadau asesu

Byddwch yn derbyn manylion mewngofnodi ar gyfer Codi ar ôl eich apwyntiad – mae hyn yn ofynnol i'ch galluogi i archebu eich absenoldeb astudio. Mae AaGIC hefyd yn defnyddio'r system Codi i gysylltu â hyfforddeion am faterion a allai fod yn berthnasol iddynt ac felly o bryd i'w gilydd efallai y byddwch yn derbyn negeseuon e-bost gan AaGIC sy'n dod gan Codi fel yr anfonwr.

Ar gyfer canllawiau hyfforddi ac ymholiadau sy'n ymwneud â Codi, defnyddiwch y ddolen ganlynol: Cymorth a Chefnogaeth Codi - Hafan