Mae Microbioleg y Geg yn gangen fach ond arbenigol iawn o ddeintyddiaeth sy'n canolbwyntio ar atal, diagnosio a rheoli heintiau sy'n effeithio ar ranbarthau'r geg, yr wyneb a'r gwddf. Mae'n cyfuno dealltwriaeth glinigol â gwyddoniaeth labordy, atal a rheoli heintiau, a stiwardiaeth gwrthficrobaidd. I ddeintyddion sydd â diddordeb mewn heintiau'r geg, gweithio amlddisgyblaethol a sail wyddonol gofal cleifion, mae Microbioleg y Geg yn cynnig llwybr gyrfa nodedig a gwerth chweil. Yng Nghymru, mae hyfforddiant arbenigedd yn rhan o amgylchedd hyfforddi ôl-raddedig o ansawdd uchel sydd wedi'i gynllunio i gefnogi hyfforddeion wrth iddynt ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer ymarfer arbenigol.
I ddysgu mwy am Hyfforddiant Arbenigol Microbioleg y Geg, gofynion cymhwysedd a'r broses ymgeisio, cliciwch isod:
Gwnaed pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth ar y dudalen hon. Mae'r wybodaeth yn gywir ar adeg ei chyhoeddi.