Neidio i'r prif gynnwy

Achrediad DES Orthodontig

Mae AaGIC yn datblygu trefniadau ar gyfer achrediad Deintyddion â Sgiliau Estynedig (DES) mewn Deintyddiaeth Orthodontig. Er nad yw'r broses achredu ar agor eto ar gyfer ceisiadau, gwahoddir ymarferwyr a allai fod â diddordeb mewn gwneud cais am achrediad DES i lenwi ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb (EOI).

Lawrlwythwch y ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb

Anfonwch eich ffurflen wedi'i chwblhau drwy e-bost i HEIW.DES@wales.nhs.uk. Bydd cofrestru eich diddordeb yn galluogi AaGIC i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses achredu ac unrhyw gyfleoedd ymgeisio yn y dyfodol.

Noder nad yw cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb yn rhan o'r broses ymgeisio am achrediad ffurfiol. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno cais ar wahân pan fydd y broses achredu yn agor.