Neidio i'r prif gynnwy

Achrediad Deintyddion â sgiliau Estynedig (DES) deintyddiaeth bediatrig

Achrediad Deintyddiaeth Bedriatig Lefel 2 

Mae ceisiadau i wneud cais uniongyrchol am achrediad fel Deintydd â Sgiliau Uwch mewn Deintyddiaeth Pediatrig (DES Paed Dent) ar agor. 

Derbynnir ceisiadau ar sail dreigl, gyda'r panel yn cyfarfod yn flynyddol i asesu'r holl geisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau. 

 

Sut i wneud cais 

Dylid cyflwyno'ch ffurflen gais a'ch gwaith papur trwy lanlwytho ffeil a'i drosglwyddo gan ddefnyddio  WeTransfer  i  HEIW.DES@Wales.nhs.uk. 

Sicrhewch eich bod yn nodi'n glir yn y llinell bwnc mai cais am Achrediad Pediatrig DES yw eich cais. 

 

Llinellau amser 

Dangosir yr amserlen a ragwelir ar gyfer cylch ymgeisio 2026 isod. Gall y rhain newid. 

Dylid cyflwyno pob cais erbyn hanner nos ar y diwrnod cau. Bydd unrhyw gyflwyniadau a dderbynnir y tu hwnt i'r terfyn amser yn cael eu cadw tan y cylch ymgeisio canlynol. 

  • Ffenestr ymgeisio: 18 Medi 2025 - 23 Medi 2026      
  • Ffenestr asesu panel: 24 Medi 2026 - 15 Hydref 2026 
  • Ffenestr apeliadau: 16 Hydref - 30 Hydref 2026  
  • Ffenestr Apeliadau: 02 Tachwedd 2026 - 19 Tachwedd 2026 

 

Canllawiau Ymgeisio 

Dogfennau Hanfodol 

 

Hyfforddiant Deintyddiaeth Bedriatig Lefel 2 

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i gefnogi deintyddion sydd â diddordeb mewn Deintyddiaeth Bedriatig i ennill y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i gael eu hachredu fel Deintydd â Sgiliau Estynedig mewn Deintyddiaeth Bedriatig (DES Paed Dent), a dechrau darparu gofal Lefel 2 gyda hyder. 

 
Strwythur y cwrs: 

Bydd y rhaglen yn gwrs rhan-amser 24 mis, yn cynnwys hyfforddiant ymarferol dan oruchwyliaeth am un diwrnod llawn bob mis neu hanner diwrnod ddwywaith y mis. Mae'r lleoliadau hyn wedi'u trefnu ymlaen llaw gyda'r Byrddau Iechyd Lleol, ni fydd disgwyl i'r hyfforddeion drefnu eu lleoliadau eu hunain. 

Bydd yr hyfforddeion yn cael cefnogaeth i adeiladu portffolio o dystiolaeth, y byddant yn ei gyflwyno i banel i'w ystyried ar gyfer Achrediad fel DES mewn Deintyddiaeth Bedriatig ar ddiwedd y rhaglen. Mae mwy o fanylion ar gael yn llawlyfr y ymgeisydd isod. 

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys 12 diwrnod astudio grŵp ar bynciau perthnasol, a rhwydwaith cefnogaeth cyfoedion. 

 

Sut i wneud cais: 

Dylid cyflwyno'ch ffurflen gais a'ch gwaith papur trwy lanlwytho ffeil a'i drosglwyddo gan ddefnyddio  WeTransfer  i  HEIW.DES@Wales.nhs.uk. 

Sicrhewch eich bod yn nodi'n glir yn y llinell bwnc mai cais am Hyfforddiant Pediatrig DES yw eich cais. 

 

Llinellau amser 

Dangosir yr amserlen a ragwelir ar gyfer cylch ymgeisio 2026 isod. Gall y rhain newid. 

Dylid cyflwyno pob cais erbyn hanner nos ar y diwrnod cau. Bydd unrhyw gyflwyniadau a dderbynnir y tu hwnt i'r terfyn amser yn cael eu cadw tan y cylch ymgeisio canlynol. 

  • Ffenestr Ymgeisio : 1 Ebrill 2026 - 1 Mai 2026     
  • Ffenestr asesu ceisiadau : 4 Mai 2026 - 1 Gorffennaf 2026 
  • Ffenestr Hysbysu: 1 Gorffennaf 2026 - 31 Gorffennaf 2026 
 
Canllawiau ymgeisio 

Dogfennau Hanfodol