Recriwtio bydwreigiaeth: datganiad

Cyhoeddwyd 20/11/26

Mae trosiant bydwragedd yn GIG Cymru ar ei lefel isaf ers dros 16 mlynedd. Mae mwy o fydwragedd yn aros mewn gwasanaethau mamolaeth Cymru, sy'n golygu bod llai o rolau ar gael i fydwragedd sydd newydd gymhwyso. Mae hyn yn dilyn haf anodd, pan oedd llai o rolau ar gael na graddedigion sy'n ymgeisio amdanynt.

Gyda disgwyl i ychydig iawn o rolau ddod ar gael cyn i'r grŵp nesaf o fyfyrwyr bydwreigiaeth gymhwyso, ni fydd GIG Cymru yn cynnal ei rownd recriwtio genedlaethol ar gyfer bydwragedd sydd newydd gymhwyso yng ngwanwyn 2027. Mewn gweminarau ddydd Iau 19 Tachwedd, cadarnhawyd hyn ochr yn ochr â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a byrddau iechyd.

Gwyddom pa mor anodd fydd y newyddion hyn i fyfyrwyr sy'n agosáu at gymhwyso ac i raddedigion sy'n dal i chwilio am eu rôl fydwreigiaeth gyntaf. Rydych wedi gweithio'n galed i gyrraedd y pwynt hwn, ac rydym yn cydnabod pa mor bryderus yw wynebu ansicrwydd am bryd a ble y gallwch ddechrau eich gyrfa.

Rydym yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Choleg Brenhinol y Bydwragedd i sefydlu pa rolau allai fod ar gael. Rydym yn archwilio sut y gallai graddedigion wneud cais am rolau ledled Cymru, lle bynnag y gwnaethant hyfforddi, a pha gymorth gallai eu helpu i gynnal eu sgiliau wrth iddynt chwilio am waith.

Byddwn yn ysgrifennu'n uniongyrchol at fyfyrwyr a graddedigion yr effeithir arnynt yn gynnar ym mis Rhagfyr gyda diweddariad pellach ac unrhyw gamau nesaf sydd wedi'u cadarnhau.

Bydd rownd recriwtio genedlaethol gwanwyn 2027 ar gyfer nyrsio yn mynd yn ei flaen drwy Symleiddio Myfyrwyr. Disgwylir i'r porth ceisiadau agor ar yr 8fed o Ragfyr 2026.