Proses Symleiddio Myfyrwyr Haf 2026 yn dod i ben 

Cyhoeddwyd 18/11/26

Mae proses Symleiddio Myfyrwyr haf 2026 ar gyfer graddedigion nyrsio a bydwreigiaeth bellach wedi cau. 

Rydym yn cydnabod bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol i rai myfyrwyr a graddedigion. Nodir y canlyniadau a'r camau nesaf ar gyfer nyrsio a bydwreigiaeth isod. 

Nyrsio 

Drwy broses yr haf hwn, cafodd 844 o nyrsys newydd gymhwyso eu paru â swydd wag yn GIG Cymru. Nid yw 35 o raddedigion pellach wedi sicrhau swydd, ac mae 26 o raddedigion wedi nodi eu bod am barhau i gael eu hystyried ar gyfer swydd nyrsio yng Nghymru. 

Gallwn gadarnhau bod digon o swyddi gwag ym maes nyrsio yn gyffredinol ar gyfer y graddedigion a gymerodd ran, er nad oedd y rhain bob amser yn cyd-fynd â'r meysydd clinigol neu'r lleoliadau a ffefrid gan raddedigion. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y dewisiadau hyn, ond nid yw bob amser yn bosibl diwallu dewisiadau unigol. Ar ddiwedd y cam hwn, roedd 78 o swyddi ar gael ledled GIG Cymru ym mhob maes nyrsio ac ar draws holl ardaloedd y Byrddau Iechyd. 

Gall graddedigion nad ydynt wedi sicrhau swydd gymryd rhan yn y broses Symleiddio Myfyrwyr nesaf, a fydd yn agor ym mis Rhagfyr, ochr yn ochr â myfyrwyr sy'n cwblhau eu rhaglenni yn ystod y misoedd nesaf. 

Bydd gwaith yn parhau ledled GIG Cymru i nodi cyfleoedd cyflogaeth. Anogir graddedigion i ystyried yr ystod lawn o swyddi a lleoliadau sydd ar gael, gan y bydd hyblygrwydd yn parhau i fod yn bwysig wrth sicrhau cyflogaeth. 

Bydwreigiaeth 

Drwy broses yr haf hwn, sicrhaodd 69 o fydwragedd newydd gymhwyso swyddi ledled GIG Cymru. Nid oedd 66 o raddedigion pellach wedi sicrhau swydd eto drwy rownd gychwynnol y broses. Rydym yn ymwybodol bod nifer o fyfyrwyr yn dal i fod wrthi'n cwblhau eu rhaglenni prifysgol, ac mae hyn yn effeithio ar nifer terfynol y graddedigion nad ydynt wedi gallu sicrhau swydd. Rydym hefyd yn ymwybodol bod rhai graddedigion a hyfforddodd yng Nghymru wedi derbyn swyddi mewn rhannau eraill o'r DU. 

Mae proses yr haf bellach wedi cau. Mae AaGIC yn gweithio gyda byrddau iechyd i nodi'r swyddi gwag sydd ar gael ac i adolygu'r dull o recriwtio bydwreigiaeth dros y chwe mis nesaf. 

Bydd angen i'r trefniadau yn y dyfodol adlewyrchu'r swyddi gwag sydd ar gael a gofynion gweithlu'r byrddau iechyd. Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am weminarau arfaethedig i fyfyrwyr, yn cael ei rhannu'n uniongyrchol â'r rhai yr effeithir arnynt. 

Diolchwn i fyfyrwyr a graddedigion am eu hamynedd ac rydym yn cydnabod eu hymrwymiad i ddechrau eu gyrfaoedd yn GIG Cymru. 

Am gwestiynau ynghylch Symleiddio Myfyrwyr, cysylltwch â NWSSP.StudentStreamlining.Enquiries@wales.nhs.uk