Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Fframwaith Cymhwysedd Rhyngweithiol Cymru Gyfan ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes i Oedolion yn gwella hygyrchedd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol

Cyhoeddwyd: 26/05/2026

Mae Fframwaith Cymhwysedd Cymru Gyfan ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes i Oedolion (PEoLC) bellach ar gael mewn fformat rhyngweithiol, gan wella hygyrchedd a defnyddioldeb i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws GIG Cymru.

Wedi'i ddatblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) mewn cydweithrediad â Rhaglen Genedlaethol GIG Cymru ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes, mae'r fframwaith yn sicrhau bod unigolion sy'n gweithio ar draws ystod o leoliadau iechyd a gofal gyda’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddarparu gofal tosturiol, sy'n canolbwyntio ar y person, i unigolion â chyflyrau iechyd sy'n byrhau bywyd.

Wedi'i gynnal ar blatfform e-ddysgu cenedlaethol AaGIC ar gyfer GIG Cymru, Y Tŷ Dysgu, mae'r fersiwn ryngweithiol o'r fframwaith wedi'i chynllunio i'w ddefnyddio mewn amgylcheddau iechyd a gofal prysur ar draws ystod o leoliadau a dyfeisiau, gan gefnogi gwell hygyrchedd.

Mae swyddogaethau newydd, gan gynnwys llywio yn seiliedig ar rolau, yn galluogi defnyddwyr i gael mynediad cyflym at gymwyseddau sydd wedi'u teilwra i'w rolau penodol, gan ddarparu mynediad cyflymach a mwy effeithlon at wybodaeth.

Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:

  • Defnyddioldeb gwell: gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ddod o hyd i gymwyseddau perthnasol yn gyflym trwy strwythur cliriach a llywio greddfol
  • Cymorth dysgu gwell: mae safbwyntiau penodol i rôl ac elfennau rhyngweithiol yn helpu i wella ymgysylltiad a lleihau gwybodaeth ddiangen
  • Cysondeb: mae un fersiwn, a gynhelir yn ganolog, yn sicrhau bod defnyddwyr yn cael mynediad at y wybodaeth ddiweddaraf
  • Cymhwysiad sefydliadol: gellir ymgorffori'r fframwaith mewn ymsefydlu, goruchwylio a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a gall gefnogi prosesau monitro a sicrwydd.

Mae'r fframwaith yn berthnasol i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio gydag oedolion sy'n byw gyda salwch sy'n byrhau bywyd ar draws pob lleoliad gofal. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol y mae gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn ganolog i'w rôl, yn ogystal â'r rhai sy'n dod ar ei draws yn llai aml.

Ers ei lansio’n swyddogol ym mis Hydref 2025, mae’r fframwaith wedi derbyn adborth cadarnhaol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac mae’n dechrau cael ei fabwysiadu mewn lleoliadau addysgol ledled Cymru.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dechrau defnyddio'r fframwaith i wella ei rhaglenni Nyrsio Oedolion a Nyrsio Iechyd Meddwl, gan ddangos hyder yn ei werth a'i berthnasedd ar gyfer datblygu gweithlu’r dyfodol.

Dywedodd Ellie Jolley-Dawson, Darlithydd mewn Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym wedi defnyddio Fframwaith Cymhwysedd Cymru Gyfan ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes i Oedolion i fapio a chreu llwybr datblygiadol clir ar draws ein rhaglenni Nyrsio Oedolion a Nyrsio Iechyd Meddwl.

“Roedden ni eisoes wedi dechrau cryfhau ein haddysgu lliniarol a diwedd oes, ond roedd y fframwaith yn darparu strwythur cadarn a oedd yn egluro beth i’w gyflwyno a phryd. Mae pob modiwl bellach yn cynnwys o leiaf un sesiwn gofal lliniarol/diwedd oes bwrpasol.

Mae adborth gan fyfyrwyr wedi bod yn gadarnhaol. Mae'r fframwaith wedi cefnogi dylunio cwricwlwm ac yn helpu partneriaid i ddeall beth i'w ddisgwyl gan fyfyrwyr mewn gwahanol gyfnodau. Credwn y bydd yn cyfrannu at weithlu mwy hyderus a chymwys dros amser.”

Y mis diwethaf, cyflwynodd AaGIC a Rhaglen Genedlaethol GIG Cymru ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes y fframwaith cymhwysedd yng Nghynhadledd Hospice UK Clinical and Workforce Leaders

Dywedodd Danielle Garrett, Rheolwr Rhaglen AaGIC:

“Mae’r fframwaith yn helpu i sicrhau bod dymuniadau cleifion yn parhau i fod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, gan gefnogi unigolion i dderbyn gofal sy’n barchus, yn canolbwyntio ar y person ac yn cyd-fynd â’u gwerthoedd a’u dewisiadau.

“Gobeithiwn y bydd y fersiwn ryngweithiol newydd o’r fframwaith yn haws i’w gyrchu, a’i llywio gan alluogi staff ar bob lefel i ddatblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i ddarparu gofal tosturiol o ansawdd uchel yn hyderus.”

Mynediad i’r Fframwaith Cymhwysedd Rhyngweithiol Cymru Gyfan ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes i Oedolion ar Y Tŷ Dysgu.