Cyhoeddwyd: 25/08/2026
Mae’r bwlch rhwng graddedigion nyrsio sy’n chwilio am waith a’r swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd ledled GIG Cymru wedi lleihau’n sylweddol dros yr haf, tra bod y sefyllfa o ran cyflogaeth i raddedigion bydwreigiaeth yn parhau i fod yn arbennig o heriol.
Ar gyfer nyrsio, mae'r bwlch rhwng graddedigion sy'n chwilio am waith a rolau sydd ar gael wedi gostwng o 186 ym mis Mehefin i 14, gyda rolau ychwanegol nawr ar gael ar draws pob rhanbarth. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa i raddedigion bydwreigiaeth yn parhau i fod yn heriol. Ers i'r broses ddechrau, mae 69 o raddedigion bydwreigiaeth wedi sicrhau swyddi, tra bod 63 yn parhau heb swyddi.
Bydd y gwaith yn parhau trwy'r hydref, gyda byrddau iechyd yn nodi rolau a chefnogaeth bellach yn parhau i raddedigion nad ydynt wedi sicrhau cyflogaeth eto. Mae partneriaid GIG Cymru yn cydnabod effaith bersonol yr ansicrwydd hwn ar raddedigion wrth iddynt gwblhau eu hyfforddiant a pharatoi i ddechrau eu gyrfaoedd.
Er bod y bwlch nyrsio wedi lleihau’n sylweddol, nid yw'r rolau sydd ar gael bob amser yn cyd-fynd â dewisiadau graddedigion. Felly, mae graddedigion sydd heb ddod o hyd i gyflogaeth yn cael eu hannog i ystyried yr ystod lawn o gyfleoedd addas sydd ar gael ledled Cymru.
Mae partneriaid GIG Cymru yn cydnabod bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd ac ansicr ac yn i ymrwymo i wneud y mwyaf o gyfleoedd cyflogaeth a chefnogi pob graddedig sy'n dymuno gweithio yn GIG Cymru.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi parhau i gydlynu'r ymateb Cymru gyfan, gan weithio gyda byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC), Llywodraeth Cymru, prifysgolion a chyrff proffesiynol, gan gynnwys y Coleg Nyrsio Brenhinol a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, i wneud y mwyaf o gyfleoedd addas a chefnogi graddedigion nad ydynt wedi sicrhau cyflogaeth eto.
Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr Addysg a Gwella Iechyd Cymru:
"Er bod y sefyllfa nyrsio wedi gwella'n sylweddol ers mis Mehefin, rydym yn cydnabod bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd ac ansicr i raddedigion nad ydynt wedi sicrhau cyflogaeth eto. Rydym yn deall yr effaith bersonol y gall yr ansicrwydd hwn ei chael wrth i raddedigion gwblhau eu hyfforddiant a pharatoi i ddechrau eu gyrfaoedd. Ein ffocws uniongyrchol yw eu helpu i ystyried a chael mynediad at gyfleoedd addas sydd ar gael ledled Cymru.
"Rydym hefyd yn cydnabod y sefyllfa anodd sy'n wynebu graddedigion bydwreigiaeth. Disgwylir nifer fach o rolau ychwanegol yn ystod yr hydref, ond mae'r rhain yn annhebygol o fod yn ddigonol i bawb sy'n dal i chwilio am waith. Bydd partneriaid Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn parhau i archwilio'r opsiynau sydd ar gael ac yn defnyddio'r dysgu eleni i lywio cynllunio'r gweithlu a Symleiddio Myfyrwyr yn y dyfodol."
Cynnydd ers y dyraniad cychwynnol
Roedd y cam dyrannu cychwynnol wedi paru 703 o raddedigion nyrsio, bydwreigiaeth ac Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau i rolau Band 5.
Ar ddiwedd y cyfnod dyraniad cychwynnol, ni chafodd 306 o raddedigion nyrsio a saith graddedig Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau eu paru i rolau.
Cyflwynwyd proses Dyraniad Ychwanegol ar gyfer graddedigion Nyrsio ac Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau. Mae mwy o raddedigion nawr wedi sicrhau rolau trwy'r broses hon a nodi cyfleoedd addas yn barhaus.
At ei gilydd, mae 921 o raddedigion wedi sicrhau rolau ar draws GIG Cymru yr haf hwn.
Gan gydnabod pwysigrwydd y mater hwn a'r effaith ar raddedigion, cynhaliodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal Uwchgynhadledd Cyflogaeth Graddedigion ym mis Mehefin. Yn dilyn yr uwchgynhadledd, ysgrifennodd y Gweinidog Cabinet at holl Gadeiryddion y GIG ac AaGIC gan nodi cyfres o gamau y cytunwyd arnynt a gofyn i'r rhain gael eu gweithredu yn gyflym er mwyn gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyflogaeth i raddedigion gofal iechyd ledled Cymru.
Mae sefydliadau GIG Cymru wedi parhau i adolygu gofynion eu gweithlu a nodi cyfleoedd addas drwy gydol yr haf.
Roedd nifer y rolau Band 5 addas sydd ar gael eleni yn is na'r disgwyl pan wnaed penderfyniadau comisiynu addysg sawl blwyddyn yn ôl. Aeth graddedigion a gwblhaodd eu hyfforddiant yn 2026 mewn i addysg yn dilyn penderfyniadau a wnaed yn 2022, pan oedd GIG Cymru yn dod allan o bandemig Covid-19 ac yn profi lefelau uchel o swyddi gwag, trosiant cynyddol a phwysau sylweddol ar y gweithlu.
Mae gwell recriwtio a chadw'r gweithlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â newidiadau mewn patrymau recriwtio, wedi arwain at drosiant is a llai o swyddi gwag yn codi na'r disgwyl pan gyflwynwyd cynlluniau'r gweithlu bedair blynedd yn ôl. Ochr yn ochr â mwy o gyfyngiadau ariannol, mae hyn wedi arwain at lai o rolau Band 5 addas ar gael eleni.
Mae gweithlu GIG Cymru wedi parhau i dyfu, gan gynnwys cynnydd o 12% mewn swyddi nyrsio cyfwerth ag amser llawn rhwng Ionawr 2023 a Ionawr 2026. Fodd bynnag, mae llawer o swyddi gwag presennol mewn bandiau uwch, mewn meysydd arbenigol neu angen profiad blaenorol, ac felly nid ydynt yn addas ar gyfer graddedigion sydd newydd gymhwyso.
Cefnogaeth barhaus i raddedigion
Mae graddedigion nad ydynt wedi sicrhau rolau eto wedi derbyn cyfathrebiadau uniongyrchol gyda gwybodaeth am gyfleoedd sydd ar gael a chymorth ymarferol. Mae hyn yn cynnwys cyngor gyrfaoedd a lles, cefnogaeth CV a chyfweliad, mynediad at e-ddysgu a chefnogaeth gan gyrff proffesiynol perthnasol.
Bydd rolau nyrsio Band 5 addas yn parhau i gael eu cydlynu yn ganolog yn ystod yr hydref i wneud y mwyaf o gyfleoedd i raddedigion sy'n parhau i fod heb gyflogaeth.
Bydd y sefyllfa yn Haf 2026 hefyd yn llywio gwaith ehangach ar draws GIG Cymru i gryfhau deallusrwydd y gweithlu ac alinio'n well cynllunio'r gweithlu, comisiynu addysg, gofynion gwasanaeth a'r adnoddau sydd ar gael.