Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Cyhoeddedg 02/04/2026
Mae oes newydd ar gyfer efelychu mewn iechyd a gofal wedi dechrau gyda lansiad y Fframwaith Datblygu Proffesiynol ar gyfer Efelychu aml-broffesiynol mewn Iechyd a Gofal . Wedi'i ddatblygu trwy gydweithrediad ar draws pedair gwlad y DU, Iwerddon a'r Gymdeithas ar gyfer Ymarfer Efelychiedig mewn Gofal Iechyd (ASPiH), mae'r fframwaith nodedig hwn yn cynrychioli cam mawr ymlaen o ran cryfhau a phroffesiynoli ymarfer efelychu.
Mae'r fframwaith yn cyflwyno strwythur clir, a rennir i gefnogi ymarferwyr efelychu ym mhob cam o'u gyrfa. Yn cwmpasu meysydd allweddol; addysg, technoleg, ysgoloriaeth, arweinyddiaeth ac ymarfer trawsnewidiol. Mae'r fframwaith yn darparu llwybrau datblygu diffiniedig sy'n helpu unigolion i feithrin arbenigedd, ehangu eu sgiliau ac archwilio arloesedd. Drwy alinio ymarfer â galluoedd cydnabyddedig, mae'n grymuso gweithwyr proffesiynol efelychu i dyfu gyda hyder ac eglurder.
I sefydliadau, mae'r fframwaith yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer datblygu'r gweithlu, sicrhau ansawdd a dilyniant staff academaidd. Mae'n cefnogi twf cyson a chynaliadwy efelychu, gan sicrhau safonau uchel ac effaith hirdymor ar draws systemau iechyd a gofal.
Yng Nghymru, mae'r fframwaith yn chwarae rhan allweddol wrth godi proffil, cysondeb ac effaith efelychu. Mae'n cefnogi'n uniongyrchol yr uchelgeisiau a nodir yn Strategaeth Efelychu AaGIC, gan helpu i ddarparu ymarfer efelychu diogel a chynaliadwy o ansawdd uchel. Yn hollbwysig, mae'n cefnogi'r defnydd o efelychu ar gyfer addysg, ymchwil, arloesi a gwella ansawdd, gan gyfrannu at well gofal cleifion, diogelwch, canlyniadau a phrofiadau.
Dywedodd Sara Catrin-Cook, Deon Cyswllt ar gyfer Efelychu a Sgiliau Clinigol, “Mae Tîm Efelychu AaGIC yn falch o fod wedi cyfrannu at y cyflawniad cydweithredol hwn ac yn edrych ymlaen at ymgorffori’r fframwaith mewn ymarfer bob dydd ledled Cymru. Mae bod yn rhan o'r gwaith cyd-ddatblygedig hwn yn gam pwysig ymlaen o ran proffesiynoli efelychu a phwysigrwydd cynyddol efelychu ar gyfer iechyd a gofal. Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â'n cydweithwyr efelychu o bedair gwlad y DU ac Iwerddon yn ogystal ag ASPiH ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach yn y dyfodol."
Am ragor o wybodaeth neu gefnogaeth, cysylltwch â: HEIW.Simulation@wales.nhs.uk
Dolen y fframwaith: https://aspih.org.uk/professional-development-framework/
Rhagor o wybodaeth: https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/adnoddau-addysg-a-hyfforddiant-digidol/efelychiad/