Gallwch nawr gofrestru i gael cyfrif ar system rheoli dysgu newydd AaGIC
Dewiswch: Cofrestru
Nodwch y canlynol os gwelwch yn dda:
- Pan fyddwch yn cofrestru fe'ch anogir i ychwanegu eich 'Prif Broffesiwn'. Sicrhewch eich bod yn dewis ‘Deintyddol'. Yna fe'ch anogir i ychwanegu eich prif rôl.
- Os ydych yn gweithio mewn practis sy'n darparu triniaeth Ddeintyddol y GIG, dewiswch y proffesiwn deintyddol GIG perthnasol i chi
- Os ydych yn gweithio mewn practis deintyddol preifat heb unrhyw driniaeth GIG, dewiswch y proffesiwn preifat perthnasol i chi
- Os yw'n berthnasol, byddwch yn gallu ymuno ag ail broffesiwn yn ddiweddarach yn y cam cofrestru.
- Fe'ch anogir i nodi enw a chyfeiriad eich gweithle. Rhowch eich prif gyfeiriad gweithle.
- Rhif ffôn cyswllt: efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi er enghraifft ar ddiwrnod digwyddiad. Ychwanegwch y rhif mwyaf cyfleus fel y gallwn eich ffonio os oes angen.
- Sylwch na fyddwch yn gweld unrhyw ddigwyddiadau/cynnwys cwrs eto - byddwch yn amyneddgar gyda ni wrth i ni uwchlwytho'r rhain i'r system rheoli dysgu newydd.
- Crëwch eich cyfrif ar y system rheoli dysgu newydd i sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau a chyrsiau Deintyddol AaGIC yn y dyfodol
- Crëwch UN cyfrif yn unig
- Mae nodyn i’ch atgoffa o’r hyn sydd angen i chi ei wneud cyn i Maxcourse gael ei ddatgomisiynu ar 31ain o Orffennaf i’w weld yma - Gwybodaeth am y System Rheoli Dysgu newydd (LMS)
Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â 03300 584 219 neu e-bostiwch HEIW.Dental@wales.nhs.uk