Er mwyn ymarfer meddygaeth yn y DU, rhaid i feddygon fod wedi cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).
Mae WARD yn cefnogi cyfranogwyr cymwys drwy gydol y broses gofrestru drwy ddarparu:
- Sesiynau addysgu wythnosol.
- Canllawiau ar lwybr cofrestru GMC.
- Cymorth ariannol tuag at arholiadau cofrestru GMC cymeradwy (yn amodol ar feini prawf y rhaglen).
- Cyngor a chefnogaeth unigol drwy gydol y broses gofrestru.