Neidio i'r prif gynnwy

Dod yn wyddonydd GIG

Mae gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd yn rhan hanfodol o weithlu'r GIG yng Nghymru.

Maent yn cefnogi gofal cleifion trwy arbenigedd gwyddonol a thechnegol ac yn ymwneud â dros 80% o'r holl benderfyniadau clinigol.

Llwybrau Gyrfa GIG Cymru

Crëwyd y llwybrau gyrfa gyda gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd yng Nghymru, gan ddefnyddio canllawiau gan gyrff proffesiynol a modelau GIG. Maent yn dangos y gwahanol lwybrau y gallwch eu cymryd mewn gyrfa broffesiynol gwyddor gofal iechyd.

Awdioleg

Ffisioleg Glinigol

Patholeg

Genomeg

Peirianneg Glinigol

Ffiseg Megyddol

Ffotograffiaeth Glinigol a Gwyddoniaeth Ailadeiladol

Gwyddoniaeth Fferyllol

Gwyddorau Cyfrifiadurol Clinigol

Radiograffeg Ddiagnostig a Radiograffeg Therapiwtig

Ymarferydd Adran Lawdriniaeth

Wrth ddechrau eich taith fel gwyddonydd gofal iechyd, mae'n helpu i gael profiad gwaith sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Mae cyngor ac awgrymiadau ynghylch sut i fynd ati i wneud hyn ar ein tudalennau profiad gwaith.

 

Llwybrau i'r proffesiwn

Fel arfer, mae 3 llwybr i'r proffesiwn gwyddor gofal iechyd, yn dibynnu ar y maes arbenigedd a ddewiswch:

 

1. Gwneud cais am swyddi cynorthwyol a chysylltiol

Gofynion mynediad: TGAU mewn Saesneg, Gwyddoniaeth a Mathemateg, neu gyfwerth.

Cyflog: Band 2, 3 neu 4.

Sut i wneud cais: Ewch i wefan swyddi'r GIG a chwiliwch am 'Gynorthwyydd' neu 'Gysylltiol'.

Oherwydd y gwahaniaethau â Lloegr, bydd angen i chi chwilio yn yr adran Proffesiynau Iechyd Cynghreiriol am gynorthwywyr a gweithwyr cymorth radiograffeg neu Ymarferwyr Adran Lawdriniaeth (ODP).

Darparir a chyllidir hyfforddiant pan fyddwch chi yn y rôl.

Fel arfer does dim angen profiad blaenorol yn y GIG arnoch i wneud cais.

 

2. Cwblhewch radd sy'n rhaglen hyfforddi graddedigion

Os ydych chi wedi cwblhau gradd sy'n rhaglen hyfforddi achrededig y GIG, rydych chi'n gymwys i wneud cais am rolau yn GIG Cymru pan fyddwch chi'n graddio. Fel arfer, bydd y rhain yn fand gradd gyflog 5 neu 6 a gellir eu canfod ar wefan swyddi'r GIG o dan naill ai gwasanaethau gwyddor iechyd neu'r adran proffesiynau iechyd cynghreiriol.

Efallai y byddwch chi'n gallu gwneud cais am fwrsariaeth i astudio os ydych chi'n bwriadu gweithio yn GIG Cymru ar ôl graddio.

 

3. Cwblhewch raglen hyfforddi ôl-raddedig

Mae'r rhain ar gyfer pobl sydd eisoes wedi cwblhau gradd berthnasol, gradd ôl-raddedig, neu ddoethuriaeth ond nid rhaglen hyfforddi.

Mae'r rhaglen hyfforddi gwyddonwyr yn cynnig rhaglenni ar gyfer llawer o'r proffesiynau gwyddor gofal iechyd.

Gallwch hefyd gymryd y llwybr hwn os ydych chi’n symud i'r GIG o yrfa arall, neu’n symud i wyddor gofal iechyd o ran arall o’r GIG.

Bydd ein tudalen Fframwaith Gyrfa a chyllid yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.

 

Ymgeiswyr o weddil y DU

Mae pob gweithiwr proffesiynol gwyddor gofal iechyd yn y DU yn dilyn yr un llwybrau mynediad i'r proffesiwn a'r un cwricwla hyfforddiant. Dim ond y cyllid a'r mathau o addysg sy'n wahanol.

Wrth wneud cais am swyddi gwyddor gofal iechyd yn GIG Cymru, fe'ch anogir i gysylltu â'r cyflogwr am sgwrs cyn gwneud cais. Efallai y cewch eich gwahodd hefyd i ymweld a siarad ag aelodau eraill o'r tîm.

Dylech hefyd sicrhau ei bod yn glir ar eich cais sut rydych chi'n bodloni pob rhan o fanyleb y person, gan fod llunio rhestr fer yn seiliedig ar sgorio yn erbyn rhai neu'r cyfan o'r pwyntiau hyn.

Dysgwch rai o’r rhesymau gwych a chwalwch y mythau am weithio yn GIG Cymru.

 

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Wrth wneud cais am swyddi yn GIG Cymru, bydd angen i chi fod wedi sicrhau fisa cyn gwneud cais am rai swyddi. Fodd bynnag, bydd rhai byrddau iechyd yn eich annog i wneud cais ac yn gallu cefnogi gyda'ch nawdd os byddwch yn llwyddiannus ar gyfer y rôl.

Fe’ch cynghorir i gysylltu â rheolwr gwasanaeth gwyddor gofal iechyd y rôl sydd o ddiddordeb i chi, neu’r gwasanaeth sy’n lleol i ble rydych chi’n byw neu’n ceisio byw yng Nghymru. 

Mae rhai swyddi yn gofyn i chi gofrestru cyn gwneud cais am y swydd

 

Ymgeiswyr sydd ddim wedi gweithio yn ddiweddar a ddim wedi’i gofrestru’n bellach.

Mae AaGIC yn cefnogi cyflogwyr posibl gyda chyllid i gynnig y profiad sydd ei angen arnoch i adennill eich cofrestriad.

Cysylltwch â’r gwasanaeth lleol ble rydych chi’n byw neu’n ceisio byw yng Nghymru.

 

Cysylltwch â Ni

Cysylltwch â thîm Gwyddor Gofal Iechyd Cymru drwy HEIW.HCS@wales.nhs.uk