Os ydych yn feddyg dan hyfforddiant yn eich blwyddyn olaf, mae rhai prosesau pwysig y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Mae'r rhain yn cynnwys:
Mae'r Cyfnod Gras (POG) ar gael i feddygon dan hyfforddiant mewn arbenigedd uwch neu lwybr hyfforddi parhaus o ddyddiad eu Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) am gyfnod o chwe mis calendr.
Bydd y Cyfnod Gras yn dechrau'r diwrnod ar ôl dyddiad y CCT, a dim ond ar ôl derbyn canlyniad ARCP 6. Fodd bynnag, ni fydd y Cyfnod Gras o reidrwydd yn yr un man gwaith.
Yn ystod y lleoliad Cyfnod Gras, ni ystyrir y meddyg bellach i fod mewn hyfforddiant, ond bydd yn parhau yn ei swydd at ddibenion darparu gwasanaeth.
Bydd AaGIC yn cysylltu â phob meddyg dan hyfforddiant gan ofyn iddynt gadarnhau eu bwriad ynghylch p'un a ydynt yn bwriadu manteisio ar y Cyfnod Gras ai peidio, fan bellaf dri mis cyn dyddiad eu CCT.
Os bydd y meddyg yn sicrhau swydd ymgynghorydd neu'n dymuno gorffen yn gynnar yn ystod y Cyfnod Gras, bydd yn ofynnol iddo ymddiswyddo a rhoi'r rhybudd safonol o dri mis: Cwblhau/gadael hyfforddiant arbenigol.
Gellir dod o hyd i'r wybodaeth hon yn Llawlyfr y Meddyg dan Hyfforddiant.
Mae hyfforddeion y mae disgwyl iddynt ennill eu CCT ymhen blwyddyn yn gymwys i ymroi i ‘Weithredu Uwch’ fel ymgynghorwyr, hyd at uchafswm o dri mis (pro rata ar gyfer Llai na Llawn-amser). Bydd hyfforddeion hefyd yn cadw eu Rhif Hyfforddiant Cenedlaethol (NTN) yn ystod y cyfnod o weithredu uwch.
Rhaid defnyddio'r term ‘gweithredu uwch’ ac nid ‘locwm’ pan yn ymgymryd â’r swydd. Mae’n bosibl i’r amser a dreulir yn ymroi i ‘weithredu uwch’ gael ei gydnabod er budd rhaglen hyfforddi sy'n arwain at ddyfarniad CCT.
Rhaid i hyfforddeion gael cymeradwyaeth ffurfiol y Deon neu’r Dirprwy Ddeon Ôl-raddedig a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant i warantu ‘gweithredu uwch’. Lawrlwythwch y ffurflen gais gweithredu uwch.
Dylai ceisiadau gyrraedd Deoniaeth Cymru o leiaf wyth wythnos cyn dyddiad cychwyn arfaethedig y trefniant gweithredu uwch.
NI fydd hyfforddeion sydd eisoes wedi ennill CCT yn gymwys i ymroi i ‘weithredu uwch’ ond bydd disgwyl iddynt ymgymryd â’r swydd fel Ymgynghorydd Locwm. Gofynnir i hyfforddeion ildio eu Rhif Hyfforddiant Cenedlaethol (NTN) ar dderbyn swydd Ymgynghorydd Locwm.
Ni fyddwn ond yn derbyn ceisiadau ar gyfer gweithredu uwch yng Nghymru (ni all Hyfforddeion ymroi i weithredu uwch y tu allan i Gymru).
Gweler gwefan y GMC am ragor o wybodaeth am weithredu uwch.