Absenoldeb o hyfforddiant

Os ydych yn absennol o’ch hyfforddiant am unrhyw reswm, rhaid i chi hysbysu eich Adran/Cyfarwyddiaeth ac PCGC:

Cysylltu â'r Cyflogwr Arweiniol

Ap Un Cyflogwr Arweiniol

Gall absenoldeb o hyfforddiant, heblaw am absenoldeb astudio neu wyliau blynyddol, h.y. absenoldeb mamolaeth/tadolaeth, gwasanaeth rheithgor neu amgylchiadau eraill na ellir eu rhagweld cael effaith ar allu meddyg i arddangos cymhwysedd a chynnydd yn eu cwricwlwm hyfforddiant. Felly, mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) wedi datgan os bydd hyfforddai wedi bod yn absennol am gyfanswm o 14 diwrnod neu fwy o fewn pob cyfnod o 12 mis (pan fyddai hyfforddai yn ei waith fel arfer), y bydd adolygiad yn cael ei gynnal i weld a oes angen ymestyn dyddiad cyflawni ei Dystysgrif/rhaglen o Gyflawniad (CCT).

Ceir rhagor o fanylion am absenoldeb o hyfforddiant yn y Llawlyfr Hyfforddeion - AaGIC (gig.cymru).

 

Gallai methiant o ran hysbysu pawb perthnasol arwain at nodi hyn yn eich Adolygiad Blynyddol o Ddatblygiad Cymhwysedd (ARCP) ac arwain at oedi eich dilyniant.