Mae gan bob arbenigedd Gynrychiolydd Hyfforddeion etholedig. Crëwyd y rôl i'n galluogi i wella ein rhaglenni hyfforddiant yn barhaus drwy adborth a gwell moddion o gyfathrebu rhwng Hyfforddeion a Phwyllgorau Hyfforddiant Arbenigol/Ysgolion. Mae'n rôl hollbwysig. Bydd Cyfarwyddwr eich Rhaglen Hyfforddiant (TPD) yn gallu dweud wrthych pwy yw eich Cynrychiolydd Hyfforddeion.
Mae AaGIC wedi cyhoeddi dogfen ganllaw sy'n cynnwys manylion y Swydd Ddisgrifiad a'r Broses Benodi ar gyfer Cynrychiolwyr Hyfforddeion.