Cyhoeddwyd: 22/07/2026
Mae sefydliadau ledled GIG Cymru yn parhau i weithio gyda'i gilydd i gefnogi graddedigion nyrsio, bydwreigiaeth ac Ymarferwyr Adran Llawdriniaeth (ODP) i gael gwaith.
Ers uwchgynhadledd y Gweinidog Cabinet ym mis Mehefin, mae ychydig llai na 100 o rolau nyrsio Band 5 ychwanegol wedi'u nodi, sy'n golygu bod swyddi gwag ar gael i 92% o raddedigion nyrsio. Mae swyddi gwag hefyd wedi'u nodi ar gyfer pob graddedig Ymarferydd Adran Llawdriniaeth.
Mae gwaith dwys yn parhau gan yr holl bartneriaid i fynd i'r afael â'r rolau nyrsio sy'n weddill ac i nodi cyfleoedd addas i raddedigion bydwreigiaeth.
Mae cynnydd wedi amrywio ar draws y tri phroffesiwn, gan adlewyrchu gwahaniaethau mewn gofynion y gweithlu ac amgylchiadau recriwtio. Fodd bynnag, mae partneriaid yn parhau i fod wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o gyfleoedd i raddedigion a chefnogi cymaint o weithwyr proffesiynol newydd â phosib i ddechrau eu gyrfaoedd yng Nghymru.
Ochr yn ochr â gweithgarwch recriwtio, mae partneriaid yn cefnogi graddedigion gyda chofrestru proffesiynol, lles, cynllunio gyrfa a chyngor cyflogaeth i'w helpu i baratoi ar gyfer cam nesaf eu gyrfaoedd.
Mae AaGIC, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, Colegau Brenhinol a phrifysgolion hefyd wedi bod yn cwrdd â graddedigion nad ydynt wedi'u paru i rôl eto. Mae'r sesiynau hyn wedi rhoi cyfle i fanylu ar y gwaith sy'n digwydd ledled Cymru, ateb cwestiynau a gwrando ar bryderon. Mae adborth o'r trafodaethau hyn wedi helpu i lywio dogfen cwestiynau cyffredin, sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd ac ar gael i fyfyrwyr.
Bydd graddedigion yn parhau i dderbyn diweddariadau wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen trwy gydol yr haf. Bydd diweddariad ehangach pellach yn cael ei ddarparu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 24 Awst gan gydnabod y bydd llawer o fyfyrwyr wedi graddio ac ar gael ar gyfer gwaith erbyn diwedd mis Medi.
Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr Addysg a Gwella Iechyd Cymru:
"Rydym yn cydnabod bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod ansicr i rai graddedigion, ond rydym am eu sicrhau bod gwaith yn mynd yn ei flaen ar draws GIG Cymru i'w cefnogi i gael gwaith.
"Mae gan y graddedigion hyn y sgiliau, y tosturi a'r ymrwymiad sydd eu hangen ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. P'un a yw'n gymwys fel nyrs, bydwraig neu Ymarferydd Adran Llawdriniaeth, mae pob graddedig yn cynrychioli rhan bwysig o weithlu GIG Cymru yn y dyfodol. Ein blaenoriaeth yw cadw'r dalent hynny yng Nghymru wrth barhau i gryfhau cynllunio'r gweithlu ac alinio addysg, cyflenwad y gweithlu ac anghenion gwasanaeth yn y dyfodol yn well."
Ychwanegodd Jennifer Winslade, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan:
"Mae nyrsys, bydwragedd ac Ymarferwyr Adran Llawdriniaeth sydd newydd gymhwyso yn ganolog i weithlu GIG Cymru. Rydym yn cydnabod bod rhai graddedigion yn parhau i wynebu ansicrwydd, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru i nodi cyfleoedd addas ar draws y tri phroffesiwn.
"Ochr yn ochr â hyn, rydym yn sicrhau bod gan raddedigion fynediad at wybodaeth glir, cyngor ymarferol a chefnogaeth barhaus wrth iddynt baratoi i fynd i gyflogaeth o fis Medi ymlaen."