Fforwm amlddisgyblaethol yw Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF), sy’n cynnwys myfyrwyr cyn-cofrestru ar gyrsiau gofal iechyd sy’n cael eu cyflawni yng Nghymru, sy’n teimlo’n angerddol dros lywio profiadau dysgu myfyrwyr presennol, a darpar fyfyrwyr.
Mae’r WHSF ar agor i’r holl fyfyrwyr gofal iechyd ac yn grymuso ‘myfyrwyr i gefnogi myfyrwyr’, oherwydd yma yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ry’n ni’n credu y gall myfyrwyr wneud gwahaniaeth!
Mae’r fforwm yn creu amgylchedd cynhwysol ble gall myfyrwyr:
Er mwyn cael lle ar y fforwm, rhaid i fyfyrwyr ymrwymo i fod yn bresennol mewn dau gyfarfod rhithwir allan o dri mewn blwyddyn. Bydd methu â gwneud hynny’n arwain at ganslo eu haelodaeth ar y fforwm.
Yn y cyfarfodydd, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i rwydweithio, trafod ac ymgysylltu â ffigurau proffil uchel o fewn y GIG, prifysgolion a Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, bydd gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau ar-lein, cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus a chynulleidfaoedd gyda siaradwyr ysbrydoledig, rhwydwaith gyrfaoedd, defnyddwyr gwasanaeth a myfyrwyr ôl-raddedig yn eu meysydd eu hunain.
Os ydych chi’n fyfyriwr gofal iechyd, neu’n adnabod myfyriwr gofal iechyd sy’n astudio yng Nghymru ac sy’n angerddol dros wella profiadau addysgol i fyfyrwyr, ymunwch â WHSF heddiw!
Gallwch gofrestru i ymuno â WHSF drwy ddefnyddio’r ddolen neu sganio’r cod QR isod
Cysylltwch â Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru