Rydym am glywed eich barn am Strategaeth Addysg ddrafft AaGIC. Wedi’i datblygu drwy flwyddyn o gasglu tystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, mae’r strategaeth yn nodi ein cyfeiriad arfaethedig ar gyfer addysg a hyfforddiant ledled Cymru.
Mae’r strategaeth yn ein helpu i edrych y tu hwnt i heriau heddiw ac i ystyried sut y dylai addysg a hyfforddiant esblygu er mwyn gwella iechyd y boblogaeth, cefnogi cyfeiriad strategol GIG Cymru, gan gynnwys datblygu modelau gofal newydd, ac ymateb i anghenion a disgwyliadau newidiol dysgwyr ac addysgwyr.
Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar bum thema lle credwn y gallai newid wneud y gwahaniaeth mwyaf i iechyd y boblogaeth. Nodwyd y themâu hyn drwy ymchwil a sgyrsiau â rhanddeiliaid. Gyda’i gilydd, maent yn darparu fframwaith ar gyfer gweithredu hirdymor. Mae gan bob thema flaenoriaethau allweddol y byddwn yn eu datblygu drwy ein Cynllun Tymor Canolig Integredig. Y pum thema yw:
Thema Strategol 1
Sgiliau ar gyfer y dyfodol: Paratoi gweithlu GIG Cymru gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen ar gyfer modelau gofal y dyfodol, gan gynnwys galluoedd digidol, yr iaith Gymraeg ac iechyd y boblogaeth.
Thema Strategol 2
Llwybrau deniadol i yrfaoedd gofal iechyd: Creu llwybrau mwy hyblyg, cynhwysol a hygyrch i yrfaoedd gofal iechyd, gan gefnogi pobl o gefndiroedd amrywiol i fynd i mewn i addysg a hyfforddiant ac i symud ymlaen drwyddynt.
Thema Strategol 3
Datblygu’r gweithlu amlbroffesiynol: Cryfhau cyfleoedd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddysgu a gweithio gyda’i gilydd, gan ddatblygu’r sgiliau a rennir sydd eu hangen i ddarparu gofal integredig, sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac ar yr unigolyn.
Thema Strategol 4
Amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel: Sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel, cynhwysol a chefnogol, gyda addysgwyr medrus, goruchwyliaeth effeithiol a chyfleoedd i ddysgu ar draws gwahanol leoliadau gofal.
Thema Strategol 5
Cynllunio a chyllido addysg a hyfforddiant cynaliadwy: Gwneud defnydd gwell o adnoddau drwy gynllunio a buddsoddi sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau bod addysg a hyfforddiant yn parhau i fod yn fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn ymatebol i anghenion gweithlu’r dyfodol.
Rydym bellach yn lansio ymgynghoriad ar y Strategaeth ddrafft, a fydd yn rhedeg o 19 Hydref 2026 tan 4 Rhagfyr 2026.
Dyma eich cyfle i ddweud wrthym a yw’r Strategaeth ddrafft yn adlewyrchu anghenion GIG Cymru ac yn gosod cyfeiriad clir ac uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.
Darllenwch y Strategaeth Addysg ddrafft AaGIC
Cwblhewch yr holiadur ymgynghori: Strategaeth Addysg AaGIC – Ymgynghoriad Cyhoeddus – Llenwi’r ffurflen
Archwiliwch y dystiolaeth sganio’r gorwel sy’n ategu’r strategaeth
Darllenwch y dadansoddiad thematig o’r Alwad am Dystiolaeth.
Rydym hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio lle gallwch ddysgu mwy am y strategaeth a’n blaenoriaethau allweddol er mwyn helpu i lywio eich ymateb.
Cofrestrwch ar gyfer sesiwn galw heibio: dolen gofrestru Microsoft Forms
Diolch i bawb sydd eisoes wedi rhannu eu hamser, eu profiad a’u harbenigedd. Mae eich cyfraniadau wedi chwarae rhan allweddol wrth lunio’r drafft hwn, a gobeithiwn y byddwch yn parhau i ymgysylltu â ni yn ystod y cam olaf hwn o’r broses.