Neidio i'r prif gynnwy

Dychwelyd I hyfforddiant

Mae nifer gynyddol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru yn cymryd amser i ffwrdd o hyfforddiant am amrywiaeth o resymau. Gall y rhain gynnwys amgylchiadau personol, fel absenoldeb rhiant, cyfrifoldebau gofalu, neu afiechyd, yn ogystal â chyfleoedd proffesiynol gan gynnwys ymchwil neu ddatblygu gyrfa.

Er mwyn cefnogi profiad cadarnhaol o ddychwelyd i hyfforddiant, argymhellir dull unigol, tosturiol a chefnogol. Anogir hyfforddwyr i gyfarfod â phob deintydd/fferyllydd preswyl/hyfforddai cyn iddynt ddychwelyd i drafod:

  • hyd yr amser allan o hyfforddiant
  • profiadau yn ystod eu habsenoldeb
  • gofynion cymorth wrth ddychwelyd
  • cynllunio sesiwn ymsefydlu briodol

Ar ôl iddynt ddychwelyd, argymhellir cynnal cyfarfodydd rheolaidd i fonitro cynnydd a darparu cefnogaeth barhaus.

Canllawiau a Chwestiynau Cyffredin

Mae'r canllawiau hyn wedi'u datblygu i gefnogi deintyddion/fferyllwyr preswyl a'u hyfforddwyr trwy ddarparu cyngor ac adnoddau ymarferol i gefnogi'r broses o ddychwelyd i hyfforddiant.

  • Canllawiau Dychwelyd i Hyfforddiant
  • Cwestiynau Cyffredin Dychwelyd i Hyfforddiant

Ffurflenni Dychwelyd i Hyfforddiant

Mae'r ffurflenni hyn wedi'u cynllunio i gefnogi trafodaethau rhwng deintyddion/fferyllwyr preswyl a'u hyfforddwyr ynghylch anghenion disgwyliedig ac unrhyw gefnogaeth sydd ei hangen wrth ddychwelyd i hyfforddiant.

  • Ffurflen cyn-absenoldeb – ar gyfer absenoldeb wedi'i gynllunio
  • Ffurflen cyn dychwelyd – ar gyfer absenoldeb heb ei gynllunio, wedi'i chwblhau o fewn amserlen briodol cyn dychwelyd (argymhellir tua chwe wythnos)
  • Ffurflen ôl-ddychwelyd – i adolygu cynnydd a nodi unrhyw anghenion cymorth pellach ar ôl dychwelyd i'r gwaith (argymhellir tua chwe wythnos ar ôl dychwelyd)

Mae'r tair ffurflen ar gael o fewn yr un ddogfen.

Uned Cymorth Proffesiynol

Mae cymorth ychwanegol ar gael gan yr Uned Cymorth Proffesiynol (PSU), a all ddarparu arweiniad a chyngor drwy gydol y broses dychwelyd i hyfforddiant.