Mae’r Fframwaith Gallu Digidol (DCF) a'r offeryn hunanwerthuso rhyngweithiol yn eich galluogi i:
- Nodi’r sgiliau, yr agweddau a’r ymddygiadau sy’n gysylltiedig â gallu digidol.
- Hunanwerthuso eich lefel o allu digidol a nodi meysydd ar gyfer datblygiad.
- Datblygu eich dysgu ymhellach drwy ystod eang o adnoddau.
- Darparu tystiolaeth o'ch dysgu a'ch cynnydd.
Drwy gwblhau'r Fframwaith Gallu Digidol (DCF), byddwch yn elwa ar:
- Fynediad diderfyn at lyfrgell gynyddol o adnoddau i ddatblygu eich sgiliau digidol ymhellach.
- Gwella gallu a sgiliau digidol i weithio'n fwy effeithiol ac effeithlon, gan barhau i gyfrannu at ofal cleifion o ansawdd uchel.
- Ei ddefnyddio fel rhan o'ch proses ail-ddilysu/ailgofrestru proffesiynol.
- Ei ddefnyddio fel rhan o'ch proses datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
Sut i gael mynediad at y DCF
Mae'r fframwaith ar gael ar Y Ty Dysgu, ein platfform dysgu cenedlaethol.
I gael mynediad ato, crëwch gyfrif. Gall gymryd hyd at 24 awr i'ch cyfrif gael ei actifadu. Ar ôl i chi greu cyfrif, cewch eich cofrestru'n awtomatig ar gwrs y Fframwaith Gallu Digidol.
Bydd staff GIG Cymru, ar ôl cofrestru, yn gallu manteisio ar ymarferoldeb mewngofnodi sengl (SSO).