Fforwm Cymorth Adolygu gan Gymheiriaid Ar gyfer optometryddion rhagnodi annibynnol sydd newydd gymhwyso.

Beth yw'r fforwm cymorth?

Mae'r fforwm cymorth ar gyfer rhagnodwyr annibynnol newydd gymhwyso, ac mae’n raglen cymorth gan gymheiriaid ar gyfer optometryddion yng Nghymru sy'n newydd i Ragnodi Annibynnol.

Fe'i datblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru i gefnogi optometryddion cymunedol yng nghamau cynnar eu harfer rhagnodi. Mae'r fforwm yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol i rannu dysgu, trafod profiadau, meithrin hyder a chadw mewn cysylltiad â chymheiriaid.