Fframwaith Gallu Digidol

Mae’r Fframwaith Gallu Digidol (DCF) a'r offeryn hunanwerthuso rhyngweithiol yn eich galluogi i:

  • Nodi’r sgiliau, yr agweddau a’r ymddygiadau sy’n gysylltiedig â gallu digidol.
  • Hunanwerthuso eich lefel o allu digidol a nodi meysydd ar gyfer datblygiad.
  • Datblygu eich dysgu ymhellach drwy ystod eang o adnoddau.
  • Darparu tystiolaeth o'ch dysgu a'ch cynnydd.

Drwy gwblhau'r Fframwaith Gallu Digidol (DCF), byddwch yn elwa ar:

  • Fynediad diderfyn at lyfrgell gynyddol o adnoddau i ddatblygu eich sgiliau digidol ymhellach.
  • Gwella gallu a sgiliau digidol i weithio'n fwy effeithiol ac effeithlon, gan barhau i gyfrannu at ofal cleifion o ansawdd uchel.
  • Ei ddefnyddio fel rhan o'ch proses ail-ddilysu/ailgofrestru proffesiynol.
  • Ei ddefnyddio fel rhan o'ch proses datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
Sut i gael mynediad at y DCF

Mae'r fframwaith ar gael ar Y Ty Dysgu, ein platfform dysgu cenedlaethol.

I gael mynediad ato, crëwch gyfrif. Gall gymryd hyd at 24 awr i'ch cyfrif gael ei actifadu. Ar ôl i chi greu cyfrif, cewch eich cofrestru'n awtomatig ar gwrs y Fframwaith Gallu Digidol.

Bydd staff GIG Cymru, ar ôl cofrestru, yn gallu manteisio ar ymarferoldeb mewngofnodi sengl (SSO).