Mae'r fforwm cymorth ar gyfer rhagnodwyr annibynnol newydd gymhwyso, ac mae’n raglen cymorth gan gymheiriaid ar gyfer optometryddion yng Nghymru sy'n newydd i Ragnodi Annibynnol.
Fe'i datblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru i gefnogi optometryddion cymunedol yng nghamau cynnar eu harfer rhagnodi. Mae'r fforwm yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol i rannu dysgu, trafod profiadau, meithrin hyder a chadw mewn cysylltiad â chymheiriaid.