Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Eich helpu i dyfu eich gyrfa

Os ydych chi'n gweithio ym maes gofal sylfaenol brys yng Nghymru, mae'r Fframwaith i Ymarferwyr Gofal Sylfaenol Brys yma i chi. Mae’n darparu strwythur clir a chyson ar gyfer datblygu cymhwysedd staff,  cryfhau gwneud penderfyniadau ymreolaethol, gweithio aml-broffesiynol, cyfathrebu sy'n canolbwyntio ar y person a rheoli cleifion yn ddiogel o fewn lleoliadau cymunedol ,sy’n cyd-fynd ag egwyddorion Cymuned trwy Ddylunio.   

Mae'r fframwaith hwn wedi'i gynllunio ar gyfer timau aml-broffesiynol, gan gynnwys nyrsys, fferyllwyr, parafeddygon a ffisiotherapyddion. 

Mae'n eich helpu i feithrin eich sgiliau, olrhain eich cynnydd, a chysylltu ag eraill sy'n gweithio mewn rolau tebyg ledled Cymru. 
 

Beth sydd ynddo i chi?

 

Beth sy'n newydd?

Rydym wedi lansio nifer o adnoddau DPP newydd ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol brys aml-broffesiynol ar draws GIG Cymru, gweler y Rhwydwaith ar Y Tŷ Dysgu . 

Mae'r adnodd yn darparu mynediad canolog i weithwyr gofal iechyd a gweithwyr gofal proffesiynol sy'n gweithio o fewn gofal sylfaenol brys at offer a chanllawiau ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan greu llwybr safonol ar gyfer dysgu, dilyniant ac ehangu rolau. Mae'n helpu i adeiladu gweithlu gwydn a all addasu i anghenion newidiol y boblogaet

Yn dod yn fuan

 

Rydym yn parhau i adeiladu ar ein casgliad o offer, fideos a deunyddiau dysgu. Cadwch lygad allan. 

 

Cwestiynau?

Gallwch gysylltu â ni yn HEIW.PrimaryCare@wales.nhs.uk.