Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Mae GPNs yn hanfodol i ddarparu gofal cyfannol o ansawdd uchel i gleifion o bob oed. Lle mae practisau meddygon teulu yn ehangu eu tîm nyrsio neu'n cynllunio olyniaeth, mae sicrhau bod nyrsys sy'n newydd i ymarfer cyffredinol yn derbyn addysg, hyfforddiant a chefnogaeth briodol yn allweddol wrth groesawu aelodau newydd i’r tîm.
Mae'r rhaglen yn cefnogi cyflawni Cymuned trwy Ddylunio - Gofal Sylfaenol Un. Mae cefnogi pob GPN i ddatblygu sgiliau newydd yn helpu i wneud y mwyaf o'r effaith y mae nyrsys a'r tîm ehangach yn ei chael ar ofal cleifion trwy gyflawni'r contract GMS.
Mae ehangu nifer y practisau sy'n cynnal Lleoliadau nyrsio mewn Practisau Meddygon Teulu - AaGIC wedi ysbrydoli llawer o nyrsys newydd gymhwyso i gymryd eu camau cyntaf tuag at yrfa foddhaol mewn ymarfer cyffredinol. Gall Rhaglen Sylfaen GPN gefnogi nyrsys newydd a nyrsys profiadol sy'n symud i ymarfer cyffredinol i uwchsgilio ar gyflymder.
Mae GPNs yn gweithio mewn meddygfeydd lle maent yn cynllunio a darparu gofal , triniaethau ac addysg iechyd i gleifion o bob oed. Fel nyrsys cofrestredig sy'n gweithio'n annibynnol, maent yn darparu cyswllt cyntaf a gofal parhaus i'r boblogaeth.
Mae gan GPNs set sgiliau sy'n eu galluogi i ddarparu ystod eang o wasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli cyflyrau hirdymor fel clefyd cronig y galon a diabetes, cefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu neu ddementia, darparu rhaglenni imiwneiddio, gwasanaethau atal cenhedlu, sgrinio serfigol a llawer mwy.
Maent yn aelodau allweddol o dîm aml-broffesiynol sy'n cynnwys meddygon, fferyllwyr, therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n darparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person.
Mae dros 1,000 o GPNs yn gweithio mewn practisau meddygon teulu ledled Cymru.
Mae'r ‘Fframwaith Cymwyseddau GIG Cymru i Nyrsys sy’n gweithio mewn Ymarfer Cyffredinol’ yn nodi'r sgiliau a'r cymwyseddau allweddol ar gyfer Nyrsio Ymarfer Cyffredinol ar draws y llwybr gyrfa. Mae'n cefnogi cyflogwyr a nyrsys teulu i fabwysiadu dull clir a chyson o baratoi a datblygu rolau, timau a gyrfaoedd nyrsio mewn ymarfer cyffredinol.
Mae'r rhaglen yn cynnig cymysgedd o addysg genedlaethol a lleol ochr yn ochr â dysgu seiliedig ar waith a datblygu sgiliau. Mae'r cwricwlwm wedi'i fapio i'r fframwaith.
Dyma fanteision y rhaglen hon i nyrsys:
Hyfforddiant ffurfiol dros gyfnod o 9-12 mis yn ystod eu rôl gyflogedig gyntaf mewn ymarfer cyffredinol
Pecyn addysg wedi'i ariannu'n llawn sy'n cyd-fynd â Fframwaith GPN
Amser wedi’i neilltuo i ddatblygu sgiliau a dysgu
Cyswllt â goruchwyliwr addysgol
Datblygiad gyrfa wedi'i ffocysu yn arwain at ymarfer clinigol mwy gwobrwyol
Rhwydwaith cyfoedion o nyrsys eraill a chyfleoedd rhwydweithio.
Mae manteision y rhaglen hon i bractisau meddygon teulu fel a ganlyn:
Proses gyflymach i ymgorffori a gwella sgiliau nyrsys sy'n newydd i Ymarfer Cyffredinol
Hyfforddiant lleol gan arbenigwyr
Gwell cyfradd gadw staff mewn lleoliadau gofal sylfaenol
Addysg a hyfforddiant a ariennir yn llawn
Datblygu rôl goruchwyliwr practis GPN o fewn y practis.
Mae dau GPN sydd wedi cymhwyso'n ddiweddar - Eve Grant a Florence Edwards - wedi rhannu eu profiadau o ddatblygu hyder, ymreolaeth a gallu trwy ‘r Raglen Sylfaen GPN.
Darllenwch fwy am brofiadau Eve a Florence yma.
Mae AaGIC yn cydnabod y rôl hanfodol y mae nyrsys ymarfer cyffredinol yn ei chwarae o fewn gofal sylfaenol, ac mae'r rhaglen hon yn anelu at ddatblygu ac ysbrydoli GPNs y dyfodol i gefnogi gofal cleifion am flynyddoedd i ddod. Am ragor o wybodaeth ynghylch Rhaglen Sylfaen GPN, cysylltwch â'ch tîm Academïau - AaGIC lleol i gael manylion y rhaglen leol.