Mae’r Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr yn arwain at radd BSc gymeradwyedig ac achrededig ym maes gwyddor gofal iechyd, ac ar ôl gorffen caiff myfyrwyr gofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd. Mae’r graddau yn cwympo o dan bum thema gwyddor gofal iechyd:
Cardiofasgwlar, Gwyddorau Anadlu a Chysgu: Ffisioleg Gardiaidd a Ffisioleg Anadlu a Chysgu
Peirianneg glinigol: peirianneg feddygol, peirianneg ymbelydredd, technoleg arennol, peirianneg adsefydlu
Ffiseg feddygol: ffiseg radiotherapi, ffiseg ymbelydredd, meddygaeth niwclear
Y Gwyddorau Niwrosynhwyrol: awdioleg, niwroffisioleg, gwyddor offthalmig a’r golwg
Gwyddorau Patholeg: gwyddorau gwaed, gwyddorau heintio, diagnosteg meinwe a chelloedd, geneteg
Caiff yr hyfforddiant ei ddarparu gan ddefnyddio dull integredig, lle mae cyfuniad o hyfforddiant academaidd a hyfforddiant yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys 50 wythnos o hyfforddiant yn seiliedig ar y gweithle yn y GIG dros dair blynedd, ynghyd â hyfforddiant gwyddonol eang yn y ddwy flynedd gyntaf a chyfle i arbenigo ym mlwyddyn 2 neu 3.