Neidio i'r prif gynnwy

Dod yn wyddonydd GIG

Trowch eich cariad at wyddoniaeth yn yrfa werth chweil sy'n cael effaith wirioneddol ar ofal iechyd yng Nghymru. Ymunwch â GIG Cymru fel gweithiwr proffesiynol gwyddor gofal iechyd a helpu i lunio dyfodol gofal cleifion ac arloesi meddygol. 

Os ydych chi'n yn yr ysgol neu'r coleg, astudio gradd, Newid gyrfaoedd, neu eisoes yn gweithio yn y GIG, mae yna lwybrau i mewn i wyddoniaeth gofal iechyd a allai fod yn iawn i chi. 

Mae gwyddor gofal iechyd yn cynnig ystod o bwyntiau mynediad hyblyg, opsiynau hyfforddi â thâl, a dilyniant clir, gan ei gwneud yn yrfa hygyrch a gwerth chweil ar bob cam. 

 

I gael gwybod mwy am bob proffesiwn gwyddor gofal iechyd, gan gynnwys beth mae'r rôl yn ei olygu, ble mae gweithwyr proffesiynol yn gweithio, a'r llwybrau gyrfa sydd ar gael, ewch i'r tudalennau gyrfaoedd gwyddor gofal iechyd. 

Darganfyddwch pa gyfleoedd datblygu sydd gan GIG Cymru i'w cynnig i chi unwaith y byddwch yn eich rôl gyntaf drwy ymweld â'r dudalen datblygu ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gwyddor Gofal Iechyd.

Gallwch ymweld â thudalen canllawiau swyddi'r GIG i gael help i lywio'r wefan.

Cysylltwch â Ni

Cysylltwch â thîm Gwyddor Gofal Iechyd Cymru drwy HEIW.HCS@wales.nhs.uk