Ydy’ch cofrestriad â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi dyddio ac hoffech chi ddychwelyd i ymarfer?
Os felly, mae’n haws nag y byddech chi’n tybio!
Er mwyn cynnal cofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) mae angen i nyrsys, bydwragedd a Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHNs) gwblhau Proses Ailddilysu'r NMC. Ail-ddilysu yw’r broses y mae angen i bob nyrs a bydwraig yn y DU ei dilyn i gynnal eu cofrestriad gyda’r NMC.
Bob tair blynedd er mwyn ailgofrestru/ail-ddilysu yn fyw ar y gofrestr am y tair blynedd nesaf, mae’n rhaid i’r rhai sydd ar y gofrestr ddangos y canlynol:
- 450 o oriau ymarfer, neu 900 os yn adnewyddu dau gofrestriad (er enghraifft fel nyrs a bydwraig)
- 35 awr o DPP gan gynnwys 20 awr o ddysgu cyfranogol
- Pum darn o adborth yn ymwneud ag ymarfer
- Pum adroddiad myfyriol ysgrifenedig
- Trafodaeth fyfyriol
- Datganiad iechyd a chymeriad
- Trefniant indemniad proffesiynol
- Cadarnhad.
Esbonnir y broses ailddilysu yn llawn ar wefan yr NMC Ailddilysu - Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC.org.uk). Ni fwriedir i'r rhaglen dychwelyd i ymarfer gael ei defnyddio fel mecanwaith i unigolion gyflawni gofynion ailddilysu.
Oes rhaid imi wneud y rhaglen Dychwelyd i Ymarfer?
Am gyngor ynghylch eich amgylchiadau personol, cysylltwch â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Sut i wneud cais
Rhaid i hyn fod drwy Reolwr y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth. Dylid cael cytundeb drwy e-bostio HEIW.EdCommissioning@wales.nhs.uk gyda’r wybodaeth ganlynol:
- Enw'r dychwelwr
- Enw'r Rheolwr
- Sefydliad y byddant wedi'i leoli ynddo drwy gydol eu lleoliad
- Dyddiad dechrau a gorffen disgwyliedig y lleoliad
- A yw’r dychwelwr naill ai o'r blaen:
- Wedi derbyn rhan o, neu'r dyfarniad llawn bwrsariaeth neu
- Wedi derbyn y dyfarniad bwrsariaeth llawn ond mae eu cofrestriad bellach wedi dod i ben ac nid ydynt bellach ar y gofrestr.
Beth y dylwn i ei ddisgwyl?
Unigolion nad ydynt yn gweithio ym maes gofal iechyd ar hyn o bryd:
- Y bydd y ffioedd wedi eu talu
- Bwrsariaeth cyfradd unffurf heb brawf modd o £3,000
- Costau gofal plant wedi eu talu (os ydych chi’n gymwys)
- Cefnogaeth a mentora.
Unigolion sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd fel gweithiwr cymorth naill ai o fewn y GIG neu Ofal Cymdeithasol yng Nghymru:
- Cyflog presennol, pro rata, (hyd at yr hyn sy’n cyfateb i Fand 4 Agenda)
- Costau gofal plant wedi eu talu (os ydych chi’n gymwys)
- Cefnogaeth a mentora.
Lle gallaf i wneud cais?
Am ragor o wybodaeth am y prifysgolion sy'n cynnig y rhaglen yng Nghymru, am ofynion mynediad a sut i wneud cais, dilynwch ar y dolenni canlynol:
Ydw i’n gymwys i hawlio costau gofal plant?
Dylid gwneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant, ar gyfer y rhai sy’n dychwelyd ac sydd wedi sicrhau cyllid gan GIG Cymru, yn uniongyrchol drwy e-bostio’r gwasanaeth gwobrau myfyrwyr abm.sas@wales.nhs.uk gyda’r wybodaeth ganlynol:
- Sefydliad maent yn astudio ynddo
- Dyddiad cychwyn y cwrs
- Cyfeiriad cartref
- Rhis ffôn cyswllt
- Bydd Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr yn rheoli'r broses ac yn cysylltu'n uniongyrchol â'r sawl sy'n dychwelyd. Bydd yn ofynnol i'r rhai sy'n dychwelyd wneud cais am gostau gofal plant cyn dechrau eu cwrs gan na ellir hawlio lwfans gofal plant mewn ôl-daliadau.
Dolenni defnyddiol: