Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Datganiad Cyfryngau AaGIC: Rhaglenni Hyfforddi Gwyddorau Parafeddygol 2026-2027

Cyhoeddedg: 20/04/2026

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), mewn cytundeb gyda Llywodraeth Cymru ag Ymddiriedolaeth Prifysgol Gwasanaeth GIG Ambiwlans Cymru (WAST), wedi cymryd y penderfyniad i rhoi seibiant ar gomisiynu rhaglenni Gwyddorau Parafeddygol newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2026-27.

Bwriad y penderfyniad hwn yw anelu at wella cyfleoedd cyflogaeth i raddedigion presennol ac yn y dyfodol ac i uno cyflenwad y gweithlu â'r galw yn fwy effeithiol.

Penderfynwyd ar leoedd myfyrwyr ar gyfer graddedigion 2026 yn 2022 yn ystod y cyfnod yn syth ar ôl y pandemig, pan oedd galw'r gweithlu yn lawer uwch na’r presennol.

Ers hynny, mae newidiadau i gyflwyno gwasanaethau gan gynnwys cyflwyno model clinigol newydd gan WAST, gwell cadw staff, a phwysau ariannol ehangach wedi lleihau nifer y rolau ar gyfer parafeddygon newydd. Mae WAST, prif gyflogwr parafeddygon yng Nghymru, wedi cadarnhau y bydd recriwtio yn cael ei gyfyngu’n sylweddol eleni, gan adlewyrchu tueddiad ehangach yn y DU.

Mae AaGIC yn cydnabod mai amser ansicr yw hwn i fyfyrwyr a graddedigion. Ystyrir mai atal derbyn myfyrwyr newydd yw’r cam mwyaf cyfrifol i leihau cystadleuaeth am swyddi dros y blynyddoedd nesaf, a chefnogi graddedigion cyfredol a rhai sydd eisoes yn astudio ar gyrsiau Gwyddorau Parafeddygol i allu dod o hyd i swyddi.

Mae AaGIC a WAST yn gweithio'n agos i nodi cyfleoedd cyflogaeth posibl mewn gwasanaethau ambiwlans, a hefyd ar draws lleoliadau iechyd a gofal ehangach. Efallai y bydd rhai graddedigion yn dal i allu sicrhau rolau parafeddygol, ond fe allai hyn gymryd peth amser.

Yn ogystal, datblygir cymorth i raddedigion diweddar i gynnal sgiliau clinigol a chymhwysedd, cael mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus, ac archwilio llwybrau gyrfa amgen posibl. Bydd hyn yn helpu i sicrhau, pan ddaw swyddi Parafeddygol ar gael, y bydd graddedigion diweddar yn gallu symud iddynt.

Mae AaGIC hefyd yn cydnabod pryderon ynghylch ad-daliad bwrsariaeth GIG Cymru. Mae telerau ac amodau'r fwrsariaeth yn cynnwys darpariaeth ar gyfer rhyddhau unigolion o'r gofynion ad-dalu lle bo'n briodol.

DIWEDD.

Dylid cyfeirio ymholiadau cyfryngau sy'n ymwneud â phenderfyniadau cyflogaeth at Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.