Neidio i'r prif gynnwy

Covid-19

Covid-19

Gall staff gofal iechyd nawr ymweld â’r ‘Gwefan Covid-19 Lles Staff GIG Cymru’ sy’n darparu adnoddau iechyd a lles i gefnogi staff yn ystod yr adeg anodd hon.

Rydym yn cymryd rhan weithredol yn yr ymateb cynllunio brys i argyfwng iechyd cyhoeddus presennol COVID-19. Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw defnyddio ein harbenigedd a'n hadnoddau i gefnogi gwasanaethau rheng flaen y GIG yng ngoleuni'r galwadau cynyddol gan y pandemig, a chynnal diogelwch a lles ein staff a'n dysgwyr ledled Cymru.

Mae staff AaGIC yn gweithio gartref ac yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i redeg ein busnes fel rhith-sefydliad. Rydym wedi adolygu'r IMTP a'r rhaglenni gwaith ac wedi oedi'r holl waith nad yw'n hanfodol i ganolbwyntio ar barhad busnes a chefnogi'r ymateb i COVID-19.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud i gefnogi myfyrwyr, hyfforddeion a'r GIG ar hyn o bryd, gweler isod a'r tudalennau cyfatebol.

Cynyddu a chefnogi'r gweithlu

Gan weithio'n agos gyda rheoleiddwyr a phartneriaid, rydym yn archwilio ac yn gweithredu opsiynau amrywiol ar sut y gallem gynyddu a chefnogi'r gweithlu i gefnogi gwasanaethau gofal iechyd yn ystod y cyfnod hwn.

Gwybodaeth ychwanegol

Sut y gall pawb helpu i leihau'r risg o ddal neu ledaenu Covid-19

I'ch amddiffyn eich hun a phobl eraill:

  • cadwch bellter cymdeithasol o leiaf 2 metr, yn gynnwys pan yn yr awyr agored
  • gwisgwch orchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do
  • golchwch eich dwylo gyda sebon a dŵr yn aml – gwnewch hyn am o leiaf 20 eiliad. Gallwch weld y canllawiau ar olchi dwylo yma
  • golchwch eich dwylo bob amser pan fyddwch yn mynd adref neu i gael gwaith
  • defnyddiwch gel diheintio dwylo os nad oes sebon a dŵr ar gael
  • gorchuddiwch eich ceg a'ch trwyn â hances neu eich llawes (nid eich dwylo) pan fyddwch yn peswch neu'n tisian
  • rhowch feinweoedd wedi'u defnyddio yn y bin ar unwaith a golchwch eich dwylo wedyn
  • ceisiwch osgoi cysylltiad agos â phobl sy'n sâl
  • peidiwch â chyffwrdd â'ch llygaid, eich trwyn na'ch ceg os nad yw eich dwylo'n lân
  • gweithiwch gartref os gallwch chi.

Gweler y canllawiau llawn gan Lywodraeth Cymru yma.

 
Beth i'w wneud os oes gennych symptomau Covid-19

 

Dylech hunanynysu a  gwneud cais am brawf Covid-19 os byddwch yn datblygu:

  • tymheredd uchel – rydych yn teimlo'n boeth i'w gyffwrdd ar eich brest neu yn ôl
  • peswch newydd, parhaus – mae hyn yn golygu eich bod wedi dechrau pesychu dro ar ôl tro
  • colli neu newid yn eich ymdeimlad o arogl neu flas
 
Pa mor hir i hunanynysu
  • Os oes gennych symptomau o Covid-19, pa mor ysgafn bynnag, arhoswch gartref am 5 diwrnod o'r adeg y dechreuodd eich symptomau a gwnewch gais am brawf. Os daw’r prawf yn ôl yn negyddol gallwch roi'r gorau i hunanynysu.
  • Os ydych chi'n profi'n bositif am Covid-19 mae angen i chi hunanynysu am 5 diwrnod, hyd yn oed os nad oes gennych chi unrhyw symptomau.
  • Os ydy rhywun chi'n byw gyda neu rywun o'ch cartref estynedig yn datblygu symptomau, rhaid i bob aelod o'r cartref hunan-ynysu am 5 diwrnod. Mae'r cyfnod o 5 diwrnod yn dechrau o'r diwrnod pan aeth y person cyntaf yn y tŷ yn sâl.
  • Os yw Profi, Olrhain, Diogelu  wedi cysylltu â chi i gadarnhau eich bod wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â Covid-19, rhaid i chi hunanynysu am 5 diwrnod. Hyd yn oed os ydych chi'n cael prawf a'i fod yn negyddol mae'n rhaid i chi ddal i hunanynysu am 5 diwrnod. Mae hyn oherwydd eich bod yn gyswllt agos â rhywun sydd â Covid-19 a gall y firws gymryd amser i'w ddangos yn eich system.

Os oes angen i chi aros gartref, dilynwch y canllawiau i aelwydydd â coronafeirws posibl.

Gall y gwiriwr symptomau COVID-19 ar-lein (ar y GIG 111 Cymru) ddweud wrthych os oes angen help meddygol arnoch a dweud wrthych beth i’w wneud. Defnyddiwch y gwasanaeth os ydych yn teimlo na allwch ddelio gyda'ch symptomau adref neu os yw'ch cyflwr yn gwaethygu. Os nad oes gyda chi fynediad i'r we, ffoniwch 111. Ar gyfer argyfwng meddygol, ffoniwch 999.
 

Gwybodaeth

Mae llawer o wybodaeth yn cael ei rhannu ar hyn o bryd, cofiwch ddilyn cyngor ac arweiniad o ffynonellau yr ymddiriedir ynddynt megis Galw Iechyd Cymru, Llywodraeth Cymru, AaGIC, Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG, Sefydliad Iechyd y Byd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ystod achosion o glefyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain yr ymateb ar ran GIG Cymru gan roi'r wybodaeth a'r Cyngor dyddiol diweddaraf. I gael y diweddariad swyddogol diweddaraf a'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ewch i'w gwefan https://phw.nhs.wales/.