Neidio i'r prif gynnwy

Ymwrthedd a Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Byd  (WAAW) a Diwrnod Ymwybyddiaeth Gwrthfiotigau Ewropeaidd (EAAD) yn ymgyrchoedd sy'n canolbwyntio ar ymwrthedd a stiwardiaeth gwrthficrobaidd.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan fod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn un o’r 10 bygythiad iechyd cyhoeddus byd-eang mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth. Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae wrth godi ymwybyddiaeth o ymwrthedd a stiwardiaeth gwrthficrobaidd.

Eleni mae themâu'r ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol yn canolbwyntio ar:

• Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd (ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio ym mhob sector)
• Rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn (ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn y sectorau sylfaenol a chymunedol)
• Newid o lwybr mewnwythiennol (IV) i un geneuol– y manteision cynaliadwyedd (i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio ym maes gofal eilaidd)

Isod fe welwch amrywiaeth o adnoddau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y pynciau uchod. (Sylwch: Cynhyrchwyd rhywfaint o gynnwys yn wreiddiol ar gyfer 2022 ond mae wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio ar gyfer 24/25).

Mae capsiynau ar gael yn ddwyieithog ar y fidoes – cliciwch ar y botwm cog.

1. Beth yw Rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn

Trawsgrifiad recordio 'Beth yw Rhagnodi gwrhfiotigau wrth gefn?'

2. Pryd i beidio â defnyddio strategaeth ar gyfer rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn

Trawsgrifiad recordio 'Pryd i beidio â defnyddio strategaeth ar gyfer rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn'

3. Rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn - cyflyrau

Nodir fod y termau 'cyflyrau' ac 'arwyddion' wedi cael ei defnyddio i feddwl 'indications' yn y cynnwys yma

Trawsgrifiad Recordio Arwyddion Rhagnodi wrth gefn

4. Rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn- Arferion Da

Trawsgrifiad Recordio Rhagnodi wrth gefn – Pwyntiau Arfer Da


Gallwch gael mynediad i’r gweminar llawn gyda rhagor o wybodaeth a manylion yma: https://ytydysgu.heiw.wales/courses/2a981b98-6998-40c2-a507-2fc9dd7095e0

Rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn: Canllaw arfer da - Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan

Crynodeb

• Gall llawer o gleifion sydd angen therapi Mewnwythiennol (IV) i ddechrau gael eu newid i'r geg ar ôl 24-48 awr ar yr amod eu bod yn gwella'n glinigol ac yn gallu goddef ffurfiant geneuol.

• Nid yw pob haint yn addas ar gyfer newid o IV i’r geg (PO)

• Nid yw pob claf yn addas ar gyfer newid o IV i'r geg

• Mae rhai heintiau y mae angen gwrthfiotigau IV ar eu cyfer

• Er bod llawer o fanteision i newid gwrthfiotigau IV i wrthfiotigau geneuol, mae'n bwysig ystyried y ffactorau a allai olygu nad yw claf yn addas i newid o therapi IV i therapi gwrthfiotig trwy'r geg.

• Mae gan y rhan fwyaf o fyrddau iechyd yng Nghymru bolisïau newid IV i PO ar Eolas i helpu i arwain rhagnodwyr

• Mae gennym ni i gyd rolau gwahanol, ond mae gennym ni i gyd rôl i'w chwarae mewn stiwardiaeth gwrthficrobaidd a newid o lwybr mewnwythiennol (IV) i un geneuol

Beth yw ARK? Siartiau ARK

• Fersiwn wedi'i addasu o Siart Cyffuriau Cymru Gyfan

• ARK= Antibiotic Review Kit Pecyn Adolygu Gwrthfiotigau

• Newidiadau i'r adran gwrthficrobaidd

• Adrannau ar wahân ar gyfer presgripsiynau gwrthfiotig cychwynnol a therfynol

• Cynnwys cymorth penderfyniad

ARK:

• Categorïau “Posibl / Tebygol” ar y pwynt rhagnodi

• Stop caled 72 awr ar ôl rhagnodi gwrthfiotigau cychwynnol

• Nid yw gweddill y siart wedi newid

• Mae Cymorth Penderfyniad ARK yn darparu ffordd syml iawn o gategoreiddio presgripsiynau gwrthfiotig fel bod timau clinigol yn gwybod mwy am pam y rhoddwyd gwrthfiotigau, sicrwydd y rhagnodydd ac a ellir eu newid yn ddiweddarach.

• Dylai'r presgripsiwn cychwynnol gael ei gategoreiddio naill ai TEBYGOL (Haint yw'r diagnosis mwyaf tebygol ond mae angen adolygu diagnosis a thriniaeth o hyd) neu BOSIBL (Nid haint yw'r diagnosis mwyaf tebygol ond rydych am ddefnyddio gwrthfiotigau fel rhagofal).


Rhestr Wirio: Newid o lwybr mewnwythiennol (IV) i un geneuol

• Mae gan y claf haint y gellir ei drin yn effeithiol â gwrthfiotigau geneuol

• Nid oes DIM pryderon am amsugno o'r geg

• Mae'r claf yn dangos arwyddion o welliant clinigol

• Marcwyr haint yn gwella e.e. apyrecsial am y 24 awr ddiwethaf, pwysedd gwaed yn sefydlog

• Pharatoadau trwy'r geg addas ar gael

• Dim cyflyrau / arwyddion y gallai fod angencyfnod hir o therapi IV e.e. endocarditis

Cofiwch:

• Nid yw pob haint yn addas ar gyfer newid o IV i geg

• Nid yw pob claf yn addas ar gyfer newid o IV i'r geg


Manteision newid o lwybr mewnwythiennol (IV) i un geneuol

• Tynnu cathetr mewnwythiennol (llinell neu fenflon) allan yn gynt

• Lleihau'r risg o heintiau venflon/heintiau llif gwaed sy'n gysylltiedig â llinell

• Lleihau'r risg o fflebitis / thrombophlebitis

• Cynyddu boddhad a chysur cleifion

• Hwyluso rhyddhau o'r ysbyty (h.y. lleihau hyd arhosiad)

• Gostyngiad mewn costau

• Mwy cynaliadwy – angen llai o blastig

• Lleihau llwyth gwaith nyrsio
• Lleihau sbectrwm y gorchudd gwrthfiotig

• Llai tebygol o yrru ymwrthedd gwrthficrobaidd

• Llai tebygol o achosi C. diff


Newid o lwybr mewnwythiennol (IV) i un geneuol – y manteision cynaliadwyedd

Mae’r ol troed carbon ynglyn a gweithgynhyrchu, defnyddio a gwaredu meddyginiaethau mewnwythiennol a'u pecynnu yn debygol o fod yn uwch nag ar gyfer meddyginiaeth drwy'r geg. Mae ystyriaethau eraill yn cynnwys

• Cludiant

• Storio

• Defnydd

• Gweithgynhyrchu

• Ôl troed carbon y defnydd o offer i roi meddyginiaethau IV e.e. canwlâu

Ystyriwch ragnodi meddyginiaethau geneuol pryd bynnag y byddai therapi mewnwythiennol yn annhebygol o fod yn fwy buddiol na pharatoadau geneuol: Cyf:Sustainable practice: Prescribing oral over intravenous medications


Newid o Lwybr Mewnwythiennol (IV) i un Geneuol -y manteision cynaliadwyedd - Canlyniadau a chanfyddiadau cychwynnol o archwiliad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Trawsgrifiad Recordio Newid o Lwybr Mewnwythiennol (IV) I un Geneuol -y manteision cynaliadwyedd 

Gallwch ddod o hyd i weminarau sy'n gysylltiedig â'r pwnc hwn yn Y Ty Dysgu > llyfrgell > aml-broffesiynol > Ymwrthedd a Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd neu drwy'r dolenni isod:

Alergedd Penisilin – cael y label yn gywir (recordiad gweminar) Penicillin Allergy – getting the label right (Webinar Recording) - Ytydysgu Heiw

Haint Clostridioides difficile: diweddariad (recordiad gweminar) Clostridioides difficile Infection: An Update (Webinar recording) - Ytydysgu Heiw

Haint anadlol acíwt (recordiad gweminar) Acute Respiratory Infection (Webinar recording) - Ytydysgu Heiw