Gall staff gofal iechyd nawr ymweld â’r ‘Gwefan Covid-19 Lles Staff GIG Cymru’ sy’n darparu adnoddau iechyd a lles i gefnogi staff yn ystod yr adeg anodd hon.
Rydym yn cymryd rhan weithredol yn yr ymateb cynllunio brys i argyfwng iechyd cyhoeddus presennol COVID-19. Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw defnyddio ein harbenigedd a'n hadnoddau i gefnogi gwasanaethau rheng flaen y GIG yng ngoleuni'r galwadau cynyddol gan y pandemig, a chynnal diogelwch a lles ein staff a'n dysgwyr ledled Cymru.
Mae staff AaGIC yn gweithio gartref ac yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i redeg ein busnes fel rhith-sefydliad. Rydym wedi adolygu'r IMTP a'r rhaglenni gwaith ac wedi oedi'r holl waith nad yw'n hanfodol i ganolbwyntio ar barhad busnes a chefnogi'r ymateb i COVID-19.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud i gefnogi myfyrwyr, hyfforddeion a'r GIG ar hyn o bryd, gweler isod a'r tudalennau cyfatebol.
Gan weithio'n agos gyda rheoleiddwyr a phartneriaid, rydym yn archwilio ac yn gweithredu opsiynau amrywiol ar sut y gallem gynyddu a chefnogi'r gweithlu i gefnogi gwasanaethau gofal iechyd yn ystod y cyfnod hwn.
I'ch amddiffyn eich hun a phobl eraill:
Gweler y canllawiau llawn gan Lywodraeth Cymru yma.
Dylech hunanynysu a gwneud cais am brawf Covid-19 os byddwch yn datblygu:
Os oes angen i chi aros gartref, dilynwch y canllawiau i aelwydydd â coronafeirws posibl.
Gall y gwiriwr symptomau COVID-19 ar-lein (ar y GIG 111 Cymru) ddweud wrthych os oes angen help meddygol arnoch a dweud wrthych beth i’w wneud. Defnyddiwch y gwasanaeth os ydych yn teimlo na allwch ddelio gyda'ch symptomau adref neu os yw'ch cyflwr yn gwaethygu. Os nad oes gyda chi fynediad i'r we, ffoniwch 111. Ar gyfer argyfwng meddygol, ffoniwch 999.
Mae llawer o wybodaeth yn cael ei rhannu ar hyn o bryd, cofiwch ddilyn cyngor ac arweiniad o ffynonellau yr ymddiriedir ynddynt megis Galw Iechyd Cymru, Llywodraeth Cymru, AaGIC, Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG, Sefydliad Iechyd y Byd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn ystod achosion o glefyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain yr ymateb ar ran GIG Cymru gan roi'r wybodaeth a'r Cyngor dyddiol diweddaraf. I gael y diweddariad swyddogol diweddaraf a'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ewch i'w gwefan https://phw.nhs.wales/.