Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn datblygu Strategaeth newydd ar gyfer Cynllunio Olyniaeth a Rheoli Talent GIG Cymru, gan adeiladu ar y strategaeth flaenorol a oedd yn cwmpasu’r cyfnod 2017–2027, er mwyn cefnogi dull mwy cynlluniedig a chynaliadwy o ddatblygu arweinyddiaeth yn y dyfodol ar draws GIG Cymru. Bydd y strategaeth yn helpu i sicrhau bod y system mewn gwell sefyllfa i nodi, datblygu a chefnogi arweinwyr sy’n barod i ymgymryd â rolau uwch wrth i anghenion sefydliadol a phoblogaethol esblygu.
Bydd y strategaeth diwygiedig yn darparu fframwaith cenedlaethol cliriach ar gyfer adnabod potensial arweinyddiaeth a chefnogi cynllunio olyniaeth mwy cyson ledled GIG Cymru. Bydd yn helpu sefydliadau i fabwysiadu dull mwy cynlluniedig o nodi a datblygu uwch arweinwyr, gan hyrwyddo mwy o gydlyniad ar draws y system.
Wrth wraidd y strategaeth bydd cefnogi dulliau teg, cynhwysol fydd wedi’u llywio gan dystiolaeth, ac sy’n cyfrannu at biblinellau arweinyddiaeth cynaliadwy a system gofal iechyd o ansawdd uchel i bobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol.
Drwy ddatblygu arweinwyr galluog a chynhwysol, bydd GIG Cymru mewn sefyllfa well i gefnogi ei weithlu, gwella gwasanaethau a darparu gofal o safon uchel a chanlyniadau gwell i gleifion.
Bydd y gwaith yn parhau i gael ei lywio drwy ymgysylltu â phartneriaid ledled GIG Cymru, gan gefnogi dull strategol, cyson a blaengar o ddatblygu arweinyddiaeth sy’n adlewyrchu anghenion system iechyd a gofal sy’n newid.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: HEIW.TalentSuccession@wales.nhs.uk.